Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1631-32 i ddarganfod Llwybr y Gogledd-Orllewin a ymgymerwyd gan Capten James. Darlunnir anawsterau'r anturiaethwyr cynnar, ac aflwyddiannus hefyd fu James yn ei ymgais. Llwyddodd yr awdur i olrhain ei achau a phrofi am y tro cyntaf mai Cymro oedd. Erys dwy erthygl. Gwelir hiwmor cynnil yr awdur yn ei ysgrif fer, "Ystyriwch y Gwyddau', a'i fwriad amlwg yw diddanu'r darllenydd, trwy gymryd golwg ysgafn ar rinweddau gwyddau! Ysgrifennodd y Dr Emyr Wyn yn helaeth ar H.M.Stanley, ef yw y pen awdurdod arno, ac wrth drafod vDirgelion y Dyddiau Cynnar', mae'n datgelu gwendid patholegol cymeriad Stanley. Cyfaddefais ar y dechrau nad wyf yn gymwys i feirniadu'r gyfrol a'r hyn wyf wedi ei geisio yw rhoi cipdrem yn unig ar ei chynnwys. Cyfrinach Dr Emyr Wyn Jones yw ei fod yn gallu ysgrifennu ar bynciau, bônt yn feddygol neu hanesyddol, mewn dull sy'n apelio at y dyn cyffredin. Er hynny, nid yw'n gallu cuddio ei ysgolheictod. Y mae elfen y ditectif yn britho'r holl gyfrol; yn ddiau petai'r awdur wedi dewis gwasanaethu yn New Scotland Yard yn hytrach na rhagori fel cardiolegydd yn Lerpwl, byddai llawer mwy o ddihirod Lloegr wedi dod i'r ddalfa! Dylai pob meddyg o Gymro ddarllen y gyfrol hon, nid yn unig er cyfoethogi ei wybodaeth, ond hefyd i amgyffred rhai o gysylltiadau anhysbys Cymru â meddygaeth. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y gyfrol nesaf. Edward Davies. Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol. R. Elwyn Hughes. Gwasg Prifysgol Cymru, £ 12.99, tt.208. ISBN 0-7083-1397-3 Heblaw, efallai, am Edward Llwyd, mae'n debyg mai Alfred Russel Wallace oedd y naturiaethwr mwyaf a godwyd yng Nghymru erioed, er na chafodd y clod a'r sylw sy'n ddyledus iddo. Cafwyd crynodeb byr o'i hanes gan R. Elwyn Hughes yn ei gyfrol ar Darwin yng nghyfres Y Meddwl Modern (1981). Dywedir am Wallace ei fod megis "Ueuad' o'i gymharu â 'haul' Darwin (yn wir, Darwin's Moon yw teitl y cofiant iddo a ysgrifennwyd gan Amabel Williams-Ellis yn 1966). Efallai mai yng nghysgod ei astudiaeth o Darwin y dechreuodd Elwyn Hughes ymddiddori yn Wallace. Yr hyn sydd yn amlwg o ddarllen y gyfrol hynod ddifyr hon yw iddo wneud Uawer iawn o ymchwil wreiddiol a phwysig. Gwelir hyn yn y bennod sy'n ymwneud â'i blentyndod ym Mryn Buga, Gwent (ganed ef yno-yn 1823). Mae'n arbennig o wir am y