Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau golygyddol Fe ddywed hen air mai 'gorau prinder, prinder geiriau'. Mae hynny yn sicr yn wir am olygyddion cylchgronau fel Cennad. Prin y gellir cyfiawnhau cynnwys nodiadau golygyddol mewn cylchgrawn nad yw ond yn ymddangos yn flynyddol. O dan yr amgylchiadau hynny, mae unrhyw sylwadau a wneir yn debyg o fod wedi mynd yn amherthnasol neu yn angof erbyn i'r rhifyn nesaf ymddangos. Felly, ni allant fod yn gyfrwng i gychwyn trafodaeth am y pwnc a ddewiswyd. Rhaid gwneud un sylw. Ni dderbyniwyd cymaint o ddeunydd ar gyfer ei gyhoeddi y tro hwn. Felly, ar y funud olaf, bu'n rhaid bwrw ati i ysgrifennu erthygl am hanes meddygaeth er mwyn chwyddo rhyw ychydig ar faint y gyfrol. O dan yr amgylchiadau, credais mai priodol fyddai cael barn canolwr cyn cyhoeddi'r papur hwnnw. Rhaid i mi ddiolch i Dr Edward Davies am ymgymryd â'r gwaith hwnnw ar rybudd byr. Yn y cyfarfod blynyddol diwethaf, derbyniwyd fy awgrym y dylai'r Gymdeithas Feddygol geisio cael lle i'w hunan ar y rhwydwaith cyfrifiadurol rhyngwladol. Ni fu modd gwneud hyn hyd yma, ond gobeithir y gellir cwblhau'r trefniadau cyn bo hir.