Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn gynt yn y flwyddyn honno, yr oedd Don Williams a minnau wedi penderfynu y byddem yn rhoi cynnig ar ffurfio cymdeithas feddygol Gymraeg ei hiaith. Aethom ati i wahodd rhai cyfeillion meddygol i gwrdd â ni yn Ysbyty Cefn Coed, Abertawe, er mwyn creu pwyllgor llywio a allai fwrw ymlaen â'r trefniadau. Pan ddaeth hi'n amser ethol swyddogion, nid oedd yn fawr o syndod i neb mai enw Dr Emyr oedd yr unig un a gynigiwyd. Nid oedd y rhan fwyaf ohonom erioed wedi cyfarfod ag ef, ond fe wyddem amdano, ac yr oedd hynny yn ddigon. Yr oedd eisoes wedi derbyn anrhydeddau lu o wahanol gyfeiriadau. Er hynny, cefais yr argraff droeon ganddo i'r gwahoddiad hwn fod yn un a roes bleser gyda'r mwyaf iddo. Yn fuan iawn wedi'r gynhadledd, bu'n rhaid i mi ofyn iddo am gymorth mewn awr o argyfwng, ac fe'i cefais. O'r cychwyn, yr oedd Don a minnau wedi dod i'r casgliad y byddai'n rhaid i ni geisio cael ein gwaith wedi ei dderbyn fel rhan o'r gyfundrefn addysg feddygol uwchradd yng Nghymru. Wedi'r gynhadledd honno, ysgrifennais at y swyddog priodol a chefais ateb oddi wrtho a roddai'r argraff nad oedd ganddo ronyn o gydymdeimlad, a'i fod am fygwth ein holl ymdrechion. Felly, yr oedd yn ymddangos fod ein holl lafur wedi bod yn ofer, a hynny ar amser pan oedd ffurflenni aelodaeth newydd yn cyrraedd yn feunyddiol. Awgrymodd Rosina y dylwn ofyn barn Dr Emyr ar y pwnc. Dywedodd ef y byddai'n mynd i Gaerdydd o fewn pythefnos, ac y dylwn aros tan hynny heb wneud dim. Trawsnewidiwyd yr holl sefyllfa gyda'i alwad ffôn nesaf. Awgrymodd fy mod yn danfon yn union yr un llythyr i'r un gwr eto. Y tro hwn, yr oeddwn i'w atgoffa eu bod hwy ill dau wedi trafod y mater yn y cyfamser. Ac ni chafwyd unrhyw drafferthion ynglyn â hynny byth mwy. Byddai Dr Emyr wedi haeddu cael ei ethol yn llywydd anrhydeddus am oes, fel a wnaed yn 1982, pe na bai wedi gwneud unrhyw gyfraniad arall i'n gwaith. Ond estynnodd ei gyfraniadau i weithgareddau'r Gymdeithas Feddygol ymhell y tu hwnt i hynny. Rhag ofn i'r peth fynd yn angof, byddai'n werth cyfeirio at y ffaith mai ef a fu'n gyfrifol am enwi'r cylchgrawn hwn. Bu'n llywyddu llawer o'r cyfarfodydd, ac fe gyfrannai yn gyson, gan dynnu oddi ar ei brofiad eang. Ond yn ddigon rhyfedd, gwrthododd ddarlithio ar bynciau clinigol, am ei fod yn gwybod fod gennym arbenigwyr iau nag ef ei hun a allai wneud hynny. Unwaith, 'rwy'n cofio'r i mi ei gyflwyno i ffisigwr enwog nad oedd wedi cyfarfod ag ef o'r blaen, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Geiriau'r gwr hwnnw wrth iddynt ysgwyd llaw oedd, 'wrth gwrs, 'rydw i'n gyfarwydd â'ch cyhoeddiadau clinigol chwi'. Ni fu sôn am ei waith diwylliannol', a