Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

thybiaf ei fod wedi bod wrth ei fodd gyda'r ganmoliaeth annisgwyl honno. Fe'i ganed, yn fab i weinidog gyda'r Presbyteriaid, yn Wàunfawr, sir Gaernarfon, ar 23 Mai 1907. O Ysgol Sir Caernarfon, aeth i Brifysgol Lerpwl, Ue y graddiodd ag anrhydedd mewn meddygaeth a llawfeddygaeth, yn 1928. Enillodd sawl ysgoloriaeth wedi hynny, gan gaholbwyntio ar astudiaeth radiolegol o'r system goronaidd fel pwnc ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn meddygaeth. Dwy flynedd wedi iddo ennill yr MRCP, aeth yn aelod o staff anrhydeddus yr ysgol feddygol yn Lerpwl. Bu â gofal adran doluriau'r galon yno am fwy na chwarter canrif, ac ef oedd cyfarwyddwr adran astudiaëthaü'r galon yn y brifysgol. Yn 1968, cafodd ei ethol yn gadeirydd y Gymdeithas Gardiolegol Brydeinig, swydd y bu'r ddau Gymro arall hynny, Syr Thomas Lewis a Dr William Evans, yn ei dal o'i flaen. Gymaint oedd ei gyfraniadau i fywyd y genedl fel na fyddai modd eu rhestru yn llawn. Yn y maes meddygol, cadwodd gysylltiad agos â Chymru, gan ei fod yn ffisigwr anrhydeddus i sawl ysbyty.yng ngogledd Cymru. Yn ystod y rhyfel byd diwethaf, yn ogystal â pharhau a'i waith arferol yn Lerpwl, bu â gofal y gwasanaethau argyfwng meddygol am yr ardal eang honno. Bu'n aelod o Fwrdd Ysbytai Cymru, yn is-gadeirydd, ac yn gadeirydd ar sawl un o'i is-bwyllgorau. Wedi hynny, aeth yn gadeirydd Awdurdod Iechyd Clwyd. Bu ei gysylltiad â Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn un hir, ac fe gynrychiolodd y coleg hwnnw ar gyngor a llys Prifysgol Cymru. Yr oedd ei gyfraniadau i'r maes diwylliannol yr un mor sylweddol. Aeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1952, a bu'n gadeirydd Cyngor a llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i gwnaed yn Gymrawd yr Eisteddfod yn 1987. Dros gyfnod maith, cadwodd gysylltiad agos â'r Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol, ac fe fu'n perthyn i Gyngor a Llys y ddau sefydliad hwnnw. At hynny, yr oedd yn awdur toreithiog a enillodd glod am ei waith ymchwil trylwyr a'i arddull ddealladwy. Daeth cyfnod i ben gyda'i farwolaeth. Estynnodd ei fywyd dros y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, a bu'n dyst i'r rhan fwyaf o'r newidiadau a drawsnewidiodd y byd meddygol yn y cyfnod diweddar. Ond er ei holl gyraeddiadau academaidd a'r parch mawr a haeddiannol a enillodd yng nghylchoedd dyrchafedig y byd hwn, ni chollodd gysylltiad â'i gefndir gwerinol. Bydd bywyd Cymru a maes llafur Y Gymdeithas Feddygol, yn dlotach o'i golli. Tom Davies.