Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

12. Hellberg, A. et al., BJ Radiol, (1982), 15:511-515. 13. Horobin, J. Met al., BJS, (1991), 78:213-217. 14. Dixon, M. BMJ, (1992), 304:997-998. 15. Howell, A. et al., BJCancer, (1996), 74:300-308. 16. McIntosh, S.A, Purushotham, A.D, BJS, (1998), 85:1347-1356. Unrhyw ohebiaeth i Mr Rhodri J. Ll. Williams, Llawfeddyg Ymgynghorol, Ysbyty Dwyrain Morgannwg, Church Village, Pontypridd. Rhif ffôn: 01443. 216030. Rhifffacs: 01443. 206852. Tybed a oes gan unrhyw un o aelodau'r Gymdeithas wybodaeth am Dr Davie$, o Geredigion, a dderbyniodd un ar bymtheg o dribannau Cymraeg ac un Saesneg oddi wrth Siôn y crydd bach (John Jenhins) yn 1808? Yn ôl y Medical Register for the year 1780, yr oedd llawfeddyg o'r enw David Davies yn gweithio yn nhref Aberteifi ar yr amser hwnnw. Ai ef oedd hwnnw, ac os felly, a oedd ef yn berthynas i'r llawfeddyg Daniel Davies o'r un sir a symudodd i Fro Gwyr i fyw yn y 1820au? (Yr oedd ef yn un o'r ddau a ddarganfu ysgerbwd enwog Y Foneddiges Goch o Baviland yn fuan wedi iddo gyrraedd yno.) A oes rywun a ŵyr beth ddigwyddodd i Siôn, druan? Dyma'r tribannau (ni newidiwyd yr orgraff): Am ragor o'r tribannau, gweler tudalen 28. DDOE, NI DDYCHWEL. Atolwg meistyr Dafis Y Doctor mwyn gwybod us A rowch chwi Elusen rwydd o'ch rhan 1'r Prydydd gwan anghenus? Fe ddaeth y Gout wenwynig O Balas rhyw Bendefig Ataf fi i'm Bwth tylawd 1 rwygo 'nghnawd yn ffyrnig.