Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Epidemioleg neffropathi diabetig Bellach, fe wyddom mai neffropathi diabetig yw prif aches diffyg yr arennau trwy wledydd Prydain.1 Mae tystiolaeth bod datblygiad neffropathi mewn clefyd siwgr inswlin-ddibynnol (Insulin Dependent Diabetes, IDDM) yn gymharol gyffredin,2 ond hyd yn weddol ddiweddar nid oedd datblygiad neffropathi yn y math arall o glefyd siwgr (Non Insulin-Dependent Diabetes, NIDDM) yn cael ei ystyried yn broblem fawr. Dros y deng mlynedd diwethaf, am fod cyfradd marwolaethau yn NIDDM wedi Ileihau, ac felly bod y cleifion hyn yn byw yn hwy, mae neffropathi diabetig yn ymddangos yn y boblogaeth hon hefyd.3 Fe wyddom erbyn hyn fod patrwm datblygiad neffropathi yr un yn IDDM a NIDDM, ac fe wyddom y bydd 40% o'r cleifion wedi datblygu neffropathi ymhen pum mlynedd ar hugain ar ôl diagnosis o'r clefyd siwgr.4 (ffigwr 1). Ffigwr 1: Mynychder cynyddol diffyg yr arennau mewn achosion o glefyd siwgr. Addasiad o Hasslacher et al. Nephrol. Dial. Transplant. (1989). 4 Ym Mhrydain, yn flynyddol mae 30 achos o neffropathi diabetig yn digwydd ym mhob miliwn o'r boblogaeth, hynny yw 30% o'r cleifion sydd ag angen triniaeth dialysis bob blwyddyn.1 Oherwydd y gwellhad yng nghyfradd marwolaethau cleifion sy'n dioddef o NIDDM, fe welir datblygiad neffropathi diabetig fwyfwy yn y boblogaeth hon; felly mae'r canran o'r cleifion sy'n dioddef o neffropathi diabetig yn y boblogaeth yn cynyddu.5