Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ogystal â bod yn broblem fawr a chostus (yn yr Unol Daleithiau, mae triniaeth un claf sy'n dioddef o neffropathi diabetig yn costio$53,500 y flwyddyn6), wedi datblygiad neffropathi diabetig, mae cyfradd marwolaethau cleifion sy'n dioddef o neffropathi yn uchel iawn.2 O fewn pedair blynedd i'r angen am driniaeth godi o ganlyniad i neffropathi diabetig, 40% o gleifion fydd yn dal yn fyw, ac ar ôl 8 mlynedd, mae hyn yn gostwng i 10%. Mae hyn yn cymharu â 70% ar ôl pedair blynedd, a 50% ar ôl 8 mlynedd ymhlith cleifion sy'n dioddef o ddiffyg yr arennau oherwydd achosion eraill.7 (gweler ffigwr 2). Ffigwr 2: Rhagolwg cleifion â chlefyd siwgr sy'n derbyn dialysis. Addasiad o Marcelli et al., Nephrol. Dial Transplant (1995).7 Oherwydd y goblygiadau difrifol o ddatblygu neffropathi, mae'n bwysig cymryd pob cam sy'n bosibl i oedi'r broses ymhlith y cleifion hyn. Triniaeth Rheoli clefyd siwgr Mae perthynas agos rhwng datblygiad neffropathi a rheoli clefyd siwgr mewn IDDM a NIDDM. Yn ogystal, mae perthynas rhwng cyfradd dirywiad neffropathi a lefelau siwgr yn y gwaed. Dyma felly gefndir yr astudiaeth The diabetes control and complications trial (DCCT).8 Astudiaeth oedd hon mewn 29 o ganolfannau ar draws yr Unol Daleithiau, a'i bwriad oedd gweld a fyddai triniaeth drylwyr o'r clefyd siwgr mewn cleifion heb gymhlethdodau mirofascwlar yn gohirio