Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARWOLÁETH YN Y CRUD: SYNDROM MARWOLAETH SYDYN BABAN Teyrnon Powell Un o'r profiadau mwyaf dwys a ddaw i ran meddygon teulu ac i feddygon plant yw ceisio cysuro rhieni ar ôl marwolaeth sydyn eu baban. Yr oedd yn brofiad rhy gyffredin yn ystod fy ngyrfa ifanc gynnar i yn Lerpwl ac ym Manceinion, efo tuag un o bob pum cant o fabanod yn marw ohono. Fel meddygon plant, yr oedd yn rhaid i ni ddelio efo'r drasiedi hon yn fwy aml nag unrhyw farwolaeth arall, a hynny, fel rheol, heb rybudd. Os oedd y sefyllfa yn un anodd i ni, nid yw'n bosibl deall beth oedd o 'n gwneud i'r rhieni, druan. Mae rhieni plant yn ddieithriad yn dioddef yn waeth os nad oes esboniad am achos salwch neu farwolaeth ar gael. A dyma nodweddion marwolaeth yn y crud: nid oes dim esboniad ar ôl cymryd hanes clinigol, archwiliad o'r amgylchiadau, ac archwiliad post-mortem. Efo esboniad, maent yn gallu dygymod yn well â'r sefyllfa. Ac eithrio marwolaethau ym mis y geni, marwolaeth yn y crud oedd prif achos colli plentyn trwy wledydd Prydain cyn 1991. Bu ymchwilio manwl i'r achosion dros y blynyddoedd, ond ni fu'r ymchwil ffisiolegol, patholegol na biocemegol o fawr o help o ran datrys natur y broblem. Er hynny, mae gostyngiad mawr ym mynychder (incidence) marwolaeth yn y crud wedi digwydd yn ystod y 1990au. Fel llawer o welliannau meddygol, ffrwyth gwaith epidemiolegwyr ydyw'r gostyngiad hwn. Ac fe ddigwyddodd mewn gwledydd ledled y byd.. Ffactorau sydd yn gyfrifol am y gwahaniaeth: Darganfu'r epidemiolegwyr nifer o ffeithiau pwysig drwy wneud astudiaethau haparbrofion rheoledig. Fe gymharwyd amgylchiadau a bywydau cannoedd o fabanod a fu farw yn y crud efo miloedd o fabanod o gefndir tebyg na fu farw, gan chwilio am wahaniaethau rhyngddynt, gan ddefnyddio dulliau ystadegaethol. Gwelwyd bod marwolaeth yn y crud yn fwy cyffredin mewn babanod a oedd yn cysgu ar eu boliau pan fuont farw. Nid yw'r rhesymau yn bendant, ond tebyg fod cysgu ar y cefn yn helpu babanod i golli gwres maent yn gallu colli gwres yn effeithiol o'r wyneb a'r pen. Gallai fod cysylltiad rhywfodd rhwng cysgu ar y bol a gorgynhesu. Yn aml, gwelais faban marw yn cyrraedd yr ysbyty â'i dymheredd yn dal dros 40 gradd C, â'r corff wedi ei lapio mewn llwyth o ddillad. Nid oes modd bod yn