Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bendant am hyn, ond efallai fod cysylltiad rhwng sefyllfa Ue y mae babanod ifanc yn dal salwch, cael tymheredd uchel, yn cysgu ar y bol, yn gorboethi, ac yn marw'n sydyn. Cafwyd tystiolaeth gref hefyd fod perygl arbennig i fabanod mamau a oedd yn ysmygu, yn enwedig os oedd y fam wedi ysmygu tra oedd hi yn feichiog. Ffigwr 1: Prif achosion marwolaeth plant (> mis oed) trwy Brydain, 1992 Byddai'n anodd gwneud na chyfiawnhau gwneud haparbrawf rheoledig yn y maes hwn. Byddai'n sefyllfa anfoesol os byddai rhai rhieni yn cael y math hwn o wybodaeth, a rhai eraill na fyddent yn ei dderbyn. Felly, penderfynwyd rhoi cyhoeddusrwydd cryf i'r dystiolaeth uchod i bawb drwy fenter 'Cysgu ar y Cefn' ('Baclc to Sleep') yn 1991. Trwy nifer o gyfryngau bu menter frwd i geisio perswadio rhieni trwy wledydd Prydain i roi eu babanod i gysgu ar eu cefnau, yn lle'r arferiad a oedd yn gyffredin o'u rhoi ar eu boliau i gysgu. Hefyd, rhoddwyd cyngor i famau i beidio â gadael eu babanod i orboethi. Os oedd y baban yn dioddef o symptomau o unrhyw fath, cynghorwyd hwy i ofyn am farn meddyg heb oedi. Ac wrth gwrs, cawsant gyngor i beidio ysmygu tra oeddent yn feichiog. Cafwyd ymateb cymysg. Er bod llawer wedi derbyn y cyngor o ran rhoi babanod i gysgu ar eu cefnau, yr oedd y nifer a wn'aeth hynny o ran ysmygu yn llai. Er hynny, bu gostyngiad mawr yn nifer marwolaethau yn y crud. Nid oedd hyn yn profi mai'r fenter oedd yn gyfrifol am y lleihad