Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

genetaidd, a'r man Ue mae gwaith ymchwil ychwanegol yn ddianghenraid, yn annhebyg o gynorthwyo'r hil ddynol ymhellach, neu yn anfoesol. Ni ellir wynebu'r materion hyn ond trwy drafod adeiladol rhyngddisgyblol ac asesiad manwl o'r manteision a'r niwed posibl sydd yn gysylltiedig â phob datblygiad newydd. Rhaid creu brasluniau caeth (stringent protocols) fel y gall y gymuned wyddonol gyfan ddod i ddeall pwrpas a photensial cydweithio wrth weithredu a goruchwylio datblygiad y dechnoleg hon. t Casgliadau Mae llawer o'r beirniadu cyfredol a anelir at faes epidemioleg foleciwlar yn deillio o ddrwgdybiaeth digon naturiol gwyddonwyr, sydd yn dod wyneb yn wyneb â chanlyniadau negyddol a ddaw o gyfnod cynnar disgyblaeth newydd. Bydd y dadleuon hyn yn gwasgaru fel y bydd yr egwyddorion cadarn sydd yn sail i'r wyddor yn caniatáu symud ymlaen i gyrraedd darganfyddiadau ymchwil grymus a fydd o arwyddocâd mawr i feddygaeth. Ond mae'r safbwynt simplistaidd, sydd yn ystyried geneteg foleciwlar fel unig gefnogwr epidemioleg yr un mor blwyfol. Ymddengys yn glir fod pob arbenigaeth feddygol yn cyflenwi ei gilydd, gan gyfrannu at ddealltwriaeth o ryw agwedd o'r cymhlethdod sydd yn nodweddiadol o gyfansoddiad yr hil ddynol. Mae lIe i bryderu'n fawr am foeseg sefyllfa Ue y gall meddylfryd gwyddonol ddisodli ystyriaethau moesol. Felly, rhaid dysgu sut i gydweithio er mwyn cael gwared o rwystrau rhyngddisgyblol, gan symud ymlaen gyda'n gilydd i gyfeiriad y mileniwm newydd. Cyfeiriadau a nodiadau 15. A. Evans, Causation and Disease: a chronological journey. (Plenum Medical Book Company, 1993). 16. ibid. 3. vCentre for Disease Control. Pneumocystis pneumonia Los Angeles', Morbidity and Mortality Weekly Reports (1981), 30, 250-252. 17. vKaposi's Sarcoma and pneumocystis pneumonia among homosexual men New York City and California, Morbidity and Mortality Weekly Reports [Centre for DiseaseControl] 1981, 30, 305-308. 18. R. C. Gallo et al. vIsolation of human T-cell leukaemia virus in acquired immune deficiency syndrome', Science (May 1983) 220 (4599), 865-867. 19. D. Finkelstein, D. Schoenfeld (editors), AIDS clinical trials. (Wiley- Liss, 1995).