Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ennill y profiad hwnnw â hwythau yn ddidrwydded. Ni rwystrodd hynny yr amryw ddeisebwyr rhag tystio'n frwd i helaethrwydd profiad yr ymgeiswyr ym mhob un o'r enghreifftiau a godwyd o ddogfennau'r Eglwys yng Nghymru. Bu Isaac Rees, Llanwrtyd, sir Frycheiniog, yn llai uchelgeisiol na'i gymar o Geredigion, gan nad ofynnodd ef ond am yr hawl i weithio fel llawfeddyg. Dywedwyd ar ei ran ei fod yn dra medrus yng nghelfyddyd Llawfeddygaeth ac yn Brofiadol iawn yn y cyfryw Gelfyddyd ac fe [wellhaodd sawl un] pan ac mor aml (sic) a ofynnwyd am ei gymorth.yn ein barn ddiymffrost ni petai ef yn cael ei awdurdodi i Ymarfer y gelfyddyd [hon] byddai o ddefnydd mawr a gwasanaeth i'w wlad=A bellach yr ydym eto yn tystio.ei fod yn Berson sobr ei fywyd a'i ymgom ac mae'n wresog ei agwedd tuag at Eglwys Loegr. Mae'n bur debyg fod y cymal olaf o'r dyfyniad o bwys mawr. Y peth mwyaf diddorol am ei gais oedd fod yr enwog Theophilus Evans ymhlith y rhai a'i harwyddodd. Weithiau, byddai cwynion yn cyrraedd yr esgobion ynglŷn â meddygon nad oeddent wedi cael hyfforddiant cymwys. Yn 1740, cwynodd William Williams, a oedd yn drwyddedig, i Esgob Llandaf, am Morgan Jenkins, Porthceri, Morgannwg, a throsglwyddwyd yr achos i'r llys esgobol. Yn ôl y cyhuddiad, gwnaethpwyd hynny er iechyd eich henaid a'r [angen i] ddiwygio'ch ffordd.yn fwyaf arbennig am ymarfer celfyddyd a chyfrwystra llawfeddygaeth.heb drwydded.oddi wrthym ni neu unrhyw feirniad cymwys arall.ond [eich bod] yn hollol anwybodus [mewn] llawfeddygaeth ac yr ydych heb ddealltwriaeth [o'r maes] nac unrhyw faes arall wedi [gweithio] fel Uawfeddyg a phan [ddeuai cleifion] atoch gyda'u hafiechydon a'u cwynion, yr ydych wedi eu cynghori a'u cyfarwyddo.ac wedi gwaedu sawl un.fel petaech yn llawfeddyg cyfreithlon.dylech gael eich cosbi a'ch cywiro. Ni wyddys beth fu ei dynged, er, ymddengys ei enw yng nghofnodion plwyf Castell-nedd yn y flwyddyn olynol. Ceir hanes yr achos mwyaf anarferol a ddarganfuwyd wrth baratoi'r astudiaeth hon ym mhapurau ystad Boderwyd, sir Fôn. Gofynnwyd am farn Dr. Edward Wynne (1681-1755), o'r teulu hwnnw, yn 1739, pan oedd ef yn ganghellor Cadeirlan Henffordd. Derbyniwyd yno gais gan weddw