Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD Llyfrau Ymarferol Echdoe. R. Elwyn Hughes. Pen-tyrch. £ 4. tt. 67. ISBN 0-9533389-0-8. Fel y dywed Dr R. Elwyn Hughes yn ei ragair i'r gyfrol hon, gellir ei hystyried yn atodiad i'w gyfrol flaenorol arloesol, Nid am un harddwch iaith (Caerdýdd, 1990). Yn y gyfrol honno, ceir rhagymadrodd helaeth ynghyd â dyfyniadau o'r prif weithiau gwyddonol a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf, a sylwadau manwl ar bob dyfyniad. Yn y gyfrol hon, a gyhoeddir gan yr awdur ei hun, rhestrir dau gant o'r gweithiau gwyddonol, meddygol a thechnegol Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod yr un ganrif. Ychwanegir nodiadau buddiol a diddorol ar y cynnwys a'r awdur neu gyfieithydd. Fel y dywed Dr Hughes, 'llyfrau "defnyddiol" at iws gwlad oedd y rhai i gyd', hynny yw, llyfrau a oedd yn cyflwyno gwybodaeth fuddiol ac ymarferol ar gyfer cynulleidfa uniaith Gymraeg. Ar ôl i'r genedl droi'n ddwyieithog, ni welwyd bod llawer o angen am ddefnydd o'r fath a gyhoeddwyd yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Trwy drugaredd, daeth tro ar fyd yn ail hanner y ganrif. Efallai mai 1963, pan sefydlwyd y cylchgrawn Y Gwyddonydd (cylchgrawn y bu Elwyn Hughes yn gysylltiedig ag ef o'r cychwyn), oedd y flwyddyn pan ailddechreuwyd o ddifrif ar yr arfer o drafod materion gwyddonol yn Gymraeg. Ers hynny, blodeuodd Y Gymdeithas Wyddonol a'r Gymdeithas Feddygol ynghyd â'r arfer o ddysgu pynciau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at lefel A yn ein hysgolion dwyieithog. Ond ailsefydlu traddodiad oedd y gweithgareddau hyn, a gwelir ôl y traddodiad hwnnw yng nghyfrol ddiweddaraf Elwyn Hughes. Mae o leiaf traean y teitlau yn y llyfryddiaeth hon yn ymwneud â meddygaeth. Gan hynny, dylai fod o ddiddordeb i bawb sy'n ymddiddori mewn hanes meddygaeth (yn enwedig hanes 'meddygaeth boblogaidd'), a hefyd i bob casglwr llyfrau. Mae'r llyfrau eraill a restrir yn cynnwys gweithiau ar filfeddygaeth, amaethyddiaeth, garddio a chogyddiaeth. Bydd rhychwant y teitlau hyn yn agoriad llygad i unrhyw un nad yw eisoes yn gyfarwydd â'r maes. I roi blas o'r cynnwys, dyma ddyfyniad o'r nodiadau ar gyfrol y llysieuydd rhyfedd hwnnw, A. I. Coffin, a gredai na fyddai angen i feddygon fynychu unrhyw goleg ond iddynt geisio gwybodaeth vyn y goedwig a'r fforestydd lle mae anifeiliaid israddol yn darganfod gwrthwenwyn ar gyfer pob dolur'.