Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Wesley a'r Iaith Gymraeg A H Williams Dauganmlynedd i eleni (neu a bod yn fwy manwl, dauganmlynedd i ddoe) bu farw'r Parchedig John Wesley y gwr yn anad neb a fu'n gyfrifol am y ffaith ein bod ni fel eglwys fach ym "Methel" yn rhan o'r Eglwys Fethodistaidd fawr fyd-eang, er nad dyna'i fwriad o gwbl na phrif amcan a phwrpas ei fywyd. Chwe mis yn gynharach, ym mis Awst 1790, fe ddaeth i Gymru am y tro olaf, ac yn ystod yr yaweliad hwnnw fe deithiodd tua 400 milltir (a hynny ar hyd ffyrdd digon geirwon yn ami) a thradoddi dwy bregeth ar hugain o fewn pythefnos. Yr oedd ar y pryd yn saith a phedwar ugain oed 87! Pe ddaeth yma dros hanner cant o weithiau i gyd, ond dim ond pasio trwy'r wlad a wnaeth ar ddeunaw ohonynt ar ei ffordd i Iwerddon neu yn 61. Yn awr, mae'n gwbl amhosib i mi wneud cyfiawnder a'r holl ymweliadau hynny mewn un anerchiad fel hwn, a'r cwbl y carwn ei wneud felly yw trafod un agwedd yn unig ar ei weithgaredd anhygoel yr agwedd honno y sydd o fwy o ddiddordeb ond odid inni fel Methodistiaid Cymraeg nag i neb arall, sef ei agwedd tuag at yr iaith Gymraeg. Gadewch inni ddechrau yn y flwyddyn 1753, a Wesley'n hanner cant oed. Yn y flwyddyn honno fe gyhoeddodd y Parchedig Thomas Richards, Llangrallo yo ymyl Penybont-ar-Ogwr ei Eiriadur Cymraeg- Saesneg. Cyfieithiad oedd. y geiriadur hwnnw mewn gwirionedd o Eiriadur Lladin-Cyaraeg y Dr. John Davies, Mallwyd, un o ysgolheigion mwyaf ei oes, a'r gwr a oedd yn bennaf cyfrifol a ddiwygio Beibl Cymraeg William Morgan ym 1620. Ond. cyfieithiad neu beidio, bu'r geiriadur hwnnw yn 61 Griffith John Williams (un o ysgolheigion mwyaf ein hoes ni) wrth benelin bron pob bardd a llenor o bwya yng Nghymru am flynyddoedd. Ond beth sydd a wnelo hyo A John Wesley? Hyn yn fyr: fe gyhoeddwyd y Geiriadur trwy danysgrifiad, ac fel y gwyr pawb, pan fo llyfr yn cael ei gyhoeddi felly mae nifer o unigolion a sefydliadau yn ,addo prynu copi ohono ymlaen llaw, cyn iddo gael ei gyhoeddi hynny'n warant y bydd y cyhoeddwr yn debyg o gael ei arian yn 61 a'r awdur efallai geiniog neu ddwy am ei lafur. Dyna sut y cyhoeddwyd Geiriadur Thomas Richards, fel llawer iawn o lyfrau ar ei 61 i lawr i n dyddiau ni Fe danysgrifodd nifer sylweddol o bobl amdano, nid yn unig yng Nghymru ond yn Llo.egr hefyd, ac yn eu plith John Wesley a frawd Charles.