Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhaid i mi derfynu, gan fod fy llith yn feithach nag oeddwn wedi feddwl ar y cychwyn, Ond gair ar sillebu yn ol yr odl. Dywed eto i mi ei gamddeall. Y mae yn syn fod ysgrifennwr mor glir ari feddwl mor amwys. Medd- ylias fy mod yn deall ei sylwadau ar y pen hwn yn ei ysgrif o'r blaen, ac yr wyf yn sicr i mi roddi yr un ystyr iddynt a phob darllennydd arall. Ond am ei eglurhad yn ei lith ddiweddaf hon, nid wyf mor sicr. Y mae yr adnod yn llawer eglurach na'r esboniad arni. Dyma'r adnod- "Ai nid yw'n bryd bellach sillebu barddoniaeth yr un fel ag y bwriedir ei chanu ? ac fel y bo'r odl yn gofyn ? Os camddeallais frawddeg mor glir a hon, nis gall feio neb ond efe ei hun. Dangosais fod hyn yn rhwym o arwain i wrthuni mewn odl lawer pryd, gan y byddai yn rhaid felly rhoi "gwad" i odli a "rhyddhad." Os wyf yn deall yn iawn, y mae fy nghyfaill erbyn hyn yn cydnabod y chwithdod hwn. Ond feallai fy mod eto wedi ei gamddeall. Craffed y darllennydd drwy niwl yr esboniad, ac os yw yn deall yn well, gwyn ei fyd. Rhaid i mi aros am oleuni pellach, rhag i mi wneud cam ag ef. Gwad," meddai yw gwaed mewn rhannau o Gymru, ond ni ysgrifennech mo hono felly, er iddo gydodli a ryddhad." Yr oedd Pantycelyn yn ei ysgrifennu felly, ac y mae wedi ei gondemnio gan bob chwaeth dda o hynny hyd yn awr. Wele odlau cyffredin Williams-" Dwyfol wa'd," "Gwaed y gro's," "Gwaed yr O'n," "Perffaith no'th," "Hongian ar y co'd," "Angeu lo's," "Mynd i ma's," "Canu am ei bo'n," "Fe ddua'r llo'r," Tanllyd sa'th," á Ledio'n bra' &c. Fy nadl innau yw, fod twyllodl yn well na'r merthyrdod hwn ar eiriau a dyna farn yr hen bwyllgor a'r newydd. Awgrym Mr. Jones oedd, fod yn hen bryd sillebu "yn ol fel y byddo'r odl yn gofyn." Fy awgrym innau yw, nas gellir gwneud hynny yn yr engreifftiau a nodwyd, a channoedd o'u bath, heb ddinistrio iaith a synwyr. Gwn y caniateir llawer o ryddid i fardd, ond dylid gwahardd iddo benrhyddid dilywodraeth. Nid wyf yn cydolygu a'i eglurhad ar wahanol ffurfiau y gair goreu." Gan nad pa mor hen yw Gore" a "Gora," credwyf mai llygriad yw y rhai hyn hefyd ar y gair yn ei ffurff lenyddol, a digon o barch iddynt fyddai eu cadw mewn carolau a baledau. Am y dosbarth arall, megis pobl, teml, lleidr, ffafr, &c., gellir eu defnyddio yn unsill neu yn luos-sill lawer pryd, heb eu hestyn yn ol llafar gwlad. Os mai "teml" yw y gair llenyddol, digon hawdd ei ganu yn y ffurf honno. Meddylier am y llinell- Yn ei deml dan fy mron." Nid oes angen gwneud "temel o hwn, gan ei fod yn llawn mor hawdd ei ganu fel y mae, a chredwyf fod yn bwysicach cadw y wedd lenyddol ar lyfr hymnau nag un wedd arall. Mater o lawenydd, bid sicr, yn enwedig i fardd, yw cael geiriau fel "telesgob," neu "Goncertina;" ond diogelach yw cadw y rhai hyn eto yn eu ffurf lenyddol mewn llyfr fel hwn. Meddylier am y gair "lleidr." Y mae dau estyniad i hwn, "lleidyr," a lleidar." Pa un o'r ddau a fynnai Mr. Jones i gyfundeb o bobl ? Byddai lleidar yn pellhau y gair oddiwrth y Deheubarth, fel dyn yn edrych drwy'r pen chwith i'r telesgob." Neu meddylier am y gair ffafr." Estynnir hwn yn "ffafar," ffaf wr," a "ffafor."