Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyna dair sain i'r Concertina hwn. Pa un o'r rhai hyn a fynnai Mr. Jones ei gymeradwyo i wlad gyfan o bobl ? Os gellir canu ffafr" fel y mae, y mae ei estyn yn ddiangenrhaid ac os wyf finnau wedi llyncu'r syniad fod ambell ffurf ar airyn gysegredig, credwyf fod hynny yn ddiogelach na llyncu'r Concertina." DYFED. DYLANWAD Y CYMRY YN WLEIDYDDOL YN FFURFIAD GWERINIAETH AMERICA. GAN fod rhyw gymaint o sylw yn cael ei dalu yn y dyddiau hyn i'r Cymry ar wasgar, dichon na byddai yn anyddorol i ni gymeryd trem frysiog ar y gwaith a gyflawnwyd gan y Cymry a'u disgynyddion yng nghychwyniad a ffurfiad y Weriniaeth fawr hon. Nis gallwn fyned i mewn i'r holl fanylion hanesyddol; cynwysai hynny gyfrol fawr; ond ymdrechwn gadw at y prif ffeithiau. Er mai cenedl fechan ydyw ein cenedl, ac er mai bechan ydyw ein gwlad, eto y mae yn syndod fod ei meibion glewion wedi cario y fath ddylanwad yn hanes gwareiddiad y byd. Gwledydd bychain ydoedd yr Aifft, Groeg, a Phalestina, eto bu eu dylanwad yn gryfach ac yn llawer iachach ar wareiddiad y byd na'r ymherodraethau mawrion a godasant yn eu tro fel tòn ymchwyddol y môr, gan ddisgyn yn falur- iedig gyda thwrf i'r dyfnder y codasant o hono. Onid yw gweddillion gwareiddiad yr hen Aifftiaid, ail ffynonnell gwareiddiad, yn llawn dyddordeb hyd heddyw ? Onid yw llenyddiaeth y Groegiaid yn destyn syndod ac yn faes astudiaeth yn yr oes hon ? Ac onid y meddwl Heb- reig, yr hwn a anwyd ac a fagwyd rhwng bryniau a mynyddoedd, yn swn brefiadau y defaid ym Mhalestina fechan, sydd heddyw yn llywodr- aethu meddwl Ewrop ac America ? Gwledydd bychain yn wastad, a thrwy yr oesau, sydd wedi cario y dylanwad grymusaf ac iachaf ar y byd. Dichon fod yn haws i wlad fechan daflu ei nerth allan o honi ei hun. Un o achosion pennaf mawredd cenedl ydyw ei gallu i daflu allan ei bywyd ei hun gwasgaru yr elfennau cenedlaethol sydd ynddi hi ei hun i ereill. Er mai gwledydd bychain sydd wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn hyn, gellir dweyd fod hyn wedi bod yn un o brif nod- weddion y Weriniaeth hon o'r dechreuad, yr hon sydd megis cylla creadur byw anferth, yn derbyn i mewn iddo ei hun bob cenedl o ddynion o dan y nef, ac yn raddol yn eu trawsnewid yn un genedl Americanaidd, trwy weithio iddynt elfennau ei chyfansoddiad ei hun. Yn ol eu rhif, yr ydym yn gweled fod y Cymry o'r cychwyn wedi chwareu rhan flaenllaw, a rhai o honyut y rhan bwysicaf, yn ffurfiad y Werin-