Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iaeth. Ië, gellir dangos yn eglur mai syniadau a fu ym meddwl Cymro -y gwreiddiau hyn-a dyfasant yn Weriniaeth gref a rhydd. Tu allan i Gymru ei hun, amlwg ydyw fod nifer luosocach o'r genedl yn y wlad hon nag mewn un wlad arall, heb eithrio dinasoedd Lloegr. Dechreuasant ymfudo yma, a hynny oherwydd sefyllfa y wladwriaeth a'r eglwys, yn y cyfnod boreuaf. Ceir enwau Cymry ymysg y Piwritaniaid a'r Hugenotiaid, — y sefydlwyr boreuaf, y rhai a ymsefydl- asant ymysg llwythau o Indiaid anwaraidd, gan glirio y coedwigoedd mewn trefn i wneud lle i fwrw had i'r ddaear. Pe gallesid profi gwirionedd y traddodiad Cymreig fod y Tywysog Madog wedi hwylio gydag wyth o longau i dir machlud haul," i'r Cymry, ac nid i Columbus, y perthynai yr anrhydedd o ddarganfod y cyfandir hwn. Pa fodd bynnag am wirionedd y traddodiad hwn ag yr ymdrechodd yr Anrhydeddus T. L. James, yr hwn a fu yn Bostfeistr Cyffredinol yn y wlad hon, brofi ei fod yn wir, a bod y Cymry yn 1170 wedi meddiannu gorsedd a theyrnas Mexico, yr ydym yn hollol sicr fod Cymry wedi glanio yma gyda'r ymfudwyr Piwritanaidd cyntaf. Yr ydym yn gweled hefyd fod Cymry ymysg yr ymfudwyr yn y May- flower, Tachwedd lOfed, 1620, pan anwyd y plentyn gwyn cyntaf yn Lloegr Newydd, sef Captain Jones, llywydd y llong, Stephen Hopkins, Thomas Rogers, John Alden a John Holand. Yr un pryd ceir enwau Cymreig yn gynarach na glaniad y Mayflower ymysg y rhai a ym- sefydlasant ar làn afon James, yn Virginia, yn 1607. O'r flwyddyn 1607 hyd 1683 ymfudodd lluaws o deuluoedd Cymreig i Maryland, Virginia, Carolina Ddeheuol, a lluaws ereill i rannau mwy gogleddol a alwyd wedi hynny yn Lloegr Newydd. Ond nid oes gennym un cyfrwng i wybod pa nifer o'r genedl a laniasant yma hyd y flwyddyn 1850, pan y dechreuodd y llywodraeth gymeryd cyfrif o nifer yr ymfudwyr yn ol eu genedigaethau. Yn neiliadeb (census) 1850 mynegir fod nifer y Cymry, hynny yw, y rhai a anwyd yng Nghymru, yn 29,868, tra yn neiliadeb 1890, rhoddir ei rhif yn 100,079. Nid ydyw y naill ddeiliadeb na'r llall, dealler, yn cynnwys ond y rhai a anwyd yng Nghymru. Nid ydyw yn cynnwys y Cymry a anwyd yn Lloegr, na'r Cymry a anwyd yn y wlad hon. Meddylia rhai, a hynny ar ol talu llawer o sylw i'r pwnc, nad ydyw y Cymry a anwyd allan o'r wlad, y rhai a anwyd yn y wlad, ynghyda'r holl ddisgynyddion Cymreig, yn rhifo uwchlaw 400,079. Meddylia ereill drachefn, ac yn eu plith yr Anrhydeddus T. L. James, fod eu rhif tua miliwn a hanner. Amlwg ydyw, pa fodd bynnag, nas gallwn gael allan nifer y Cymry yn y wlad oddiwrth y census.* Pa faint bynnag ydyw ein rhif, yr ydym yn gweled y Cymry yn chwareu eu rhan yn dda yn yr ymdrech am fodolaeth. Cymerant eu lle trwy yr holl dalaethau fel amaethwyr llwyddiannus, celfyddydwyr cywrain mewn haiarn a phres, mewn arian ac aur, mewn ffactris a llaw-weithfeydd o bob math, fel masnachwyr ymhob cangen o fasnach, fel meddygon a chyfreithwyr, fel dysgawdwyr yn yr ysgolion dyddiol a'r colegau, fel seneddwyr a gweinidogion yr efengyl. Llenwir ganddynt yn eu tro bob swydd •Census report of the Welsh population in the United States 1850-1890, oompiled by the Rev. E. C. Evans, Editor of the Cambrian. In the Cosmopolitan Magazine, the Welsh in the United States, by Hon. Thomas L. James, EsPostmaster General.