Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar Iwybr ei ddyledswydd. Ystyriai fod "rhodio yng oleuni yr Arglwydd mor hanfodol i blentyn Duw ag ydyw i ddynion gael goleuni naturiol i deithio mewn anialwch dyrus ac anhawdd. (2 ) Am fod byw yn agos at Dduw yn galluogi dyn i ddeall am ba beth i weddïo yn ol ewyllys Duw. Nid oes dim yn amlycach oddiwrth ei ymddiddan- ion a'i bregethau na'r gred goleddai yn yr angen am allu gweddïo yn unol âg ewyllys Duw, gan y byddai gofyn am ddim fyddai yn groes i'r ewyllys yn gwneud y weddi i raddau helaeth yn ddirym. (3). Am fod agosrwydd at Dduw yn anhebgorol mewn trefn i'n gweddïau gael eu gwrando. Ni phallai Müller ddwyn hyn ar gof gyda phwyslais neilldnol yn wastad i'w gyd-lafurwyr yngwaith yr eglwys a'r Cartrefi. Dywedai yn barhaus am ofalu byw yn agos at eu Tad nefol rhag rhwystro eich gweddiau." Ei gred ddiysgog ef oedd fod dieithrwch a phellder oddi- wrth Dduw yn sicr o rwystro ein gweddiau. 2. Dygai ei hun o dan y ddisgyblaeth lemaf a'r rheolaeth janylaf bob amser. Ni oddefai iddo ei hunan fwynhau unrhyw fath o foethau i'w gorff na'i feddwl. Credai mai yr hyn sydd anghenrheidiol a buddiol sydd yn gyfreithlon i was yr Arglwydd ei geisio a'i fwynhau. Ymwrth- odai yn hollol â phob moethau mewn addurniadau, dodrefn, dillad, bwydydi, diodydd, pleserau ac arferion. Ymwrthodai yn llwyr â'r cyfryw bethau oddiar egwyddor ac argyhoeddiad dwfn. Pan y gofyn- wyd iddo nnwaith gan gyfaill paham y gwnaethai adeiladau y Cartrefi mor hollol ddiaddurn ag y maent, oddifewn ac oddifaes, ei ateb i'r cwestiwn oedd, nad oedd yn credu fod yn iawn iddo ddefnyddio arian ar addurniadau oeddynt wedi eu hanfon iddo gan bobl y gwyddai oedd yn ymwrthod â phob math o foethau a phleserau er mwyn bod yn abl i gyfrannu tuag at waith yr Arglwydd. Y mae y wers hon yn cael ei dysgn yn amlwg wrth sylwi ar yr adeiladau, oddiallan ac oddifewn. Daw cymeriad y gŵr enwog i'r golwg yn glir yn yr adeiladau ar- dderchog hyn Y maent, ys dywed y Sais, yn severely simpìe ond y mae nerth, buddioldeb, a harddwch, er hynny, yn argraffedig arnynt oll. Tra nad oes dim ynddynt i'w weled ond yr anghenrheidiol a'r buddiol, nid oes dim ynddynt yn ddolur llygad i'r coethaf ei chwaeth. Fel y mae yr adeiladau, felly yr oedd efe gyda'i arferion corfforol a meddyliol. Yr hyn oedd anghenrheidiol yn unig a fabwysiadai. Wedi deall íod saith awr o gwsg a gorffwysdra yn ddigon i'w gorff, ni oddefai iddo ei hun fwy na hynny o dan unrhyw amgylchiadau. Rhoes heibio yn gwbl arferiad a ffurfiasai pan yn ieuanc, sef gorffwyso ganol dydd. Yn lle y dose of sleep a fwynheir gan gynifer o bobl dda ar ol cniiaw, trefnodd efe fod Cyfarfod Gweddi am ugain munud i'w gynnal, er mwyn i'r holl gynorthwywyr yn y gwaith gael cydgyfaifod i adeiladu ac adgyfnerthu eu gilydd trwy weddi ar Dduw. Credai mewn Cyfarfod Gweddi Hwyr a bore a hanner dydd." Ni oddefai iddo ei hun unrhyw ddifyrwch meddyliol os na byddai yn fuddiol i adeiladu ac ymgeieddu yr ysbryd. 3. Credai ya gryf fod yn rhaid i ddyn ddejnyddio ei holl adnoddau ei hun cyn y gallai ddisgwyl am gymhorth oddiwrth Dduw. Er fod ei ymddir- ied yn ewyllys a gallu Duw yn ddiderfyn, eto ymroddai i ddefnyddio ei holl adnoddau ariannol, cortforol a meddyliol fel;pe buasai y cwbl yn dibynnu arno ef ei hun. Dywedai yn aml nad oedd 3 n credu fod Duw