Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

am y ßI00, yr hwn a dderbyniodd foreu y dydd dilynol. Yr oedd amgylchiadau cyffelyb yn ei gyfarfod yn fynych, y rhai a'i profent ef yn dra llyrn. 9. Gwelwn y byddai yn fynych yn cael ei ateb yn dra gwahanol, ond ymhell y tu hwnt i'w ddisgwyliadau. Fel esiampl o hynny gellir nodi iddo ofyn llawer yn nechreu ei yrfa am gael myned allan i'r maes cenhadol i lafurio, a cheisio amryw o weithiau gael ei dderbyu i wasanaeth cenhadol mewn cysylltiad âg amryw o gymdeithasau. Ond er na lwyddodd i gael hynny, eithr cael ei gadw gaifcref yn y gwaith, er hynny fe gafodd gyfleusdra cyn diwedd oi oes i gynorthwyo mwy ar waith cenhadol nag a fuasai yn bosibl iddo pe buasai wedi myned allan i'r maes cenhadol yn ddyn ieuanc. Cafodd y fraint o anfon dros £ 260,000 allan i gynorthwyo gwahanol gymdeithasau cenhadol, a chafodd gyfleusdra i ymweled â gorsafoedd cenhadol am 17 0 flynyddoedd mewn 42 o wahanol wledydd. Cyfrifai iddo deithio 200,000 o filldiroedd er mwyn calonogi llafur cenhadol. Uwelai yu y cyfleusderau hyn gafodd yn niwedd ei oes atebiad Duw i'w weddiau yn nechreu ei yrfa grefyddol, a gwelai fod ateb Duw ymhell uwchlaw a thu hwnt i'w ddisgwyliadau ef yn y mater. Diwedda ei ewyllys neu ei lythyr cymun gyda sylw sydd yn gydnabyddiaeth glir a phriodol iawn o sylwedd y wers olaf hon "Nis gallaf lai nag edmygu rhyfeddol ras fy Nuw yn fy nwyn i adnabod yr Arglwydd Iesu pan yr oeddwn yn ddyn ieuanc hollol diofal a difeddwl, ac yn fy nghadw yn ei ofn ac yn ei wirionedd, gan ganiatau i mi yr anrhydedd mawr o'i wasanaethu Ef am dymhor mor faith." Dyna fel y diwedda ewyllys neu destament diweddaf y gŵr enwog a hynod hwn, hanes yr hwn ddylai fod yn symbyliad a chyfnerthiad gwerthfawr i bawb sydd yn ceisio gwasanaethu Duw a gweddïo arno. Hyderwn y daw ei hanes yn fwy hysbys, a'i waith yn fwy adnabyddus, ac felly ei ddylanwad yn gryfach ar fyd ac eglwys. Dyna ddymuniad ac amcan ysgrifennydd>y sylwadau hyn. W. M. GRIFFITH. Dyŷryn. Y PRIFATHRAW T. CHARLES EDWARDS, M.A., D.D. ADGOFION AC ARGRAFFIADAU. Nid wyf yn amcanu'ysgrifennu erthygl ai elfennau na nodweddion athrylith a dysg,rnac ar fywyd a gwaith, Dr. Charles Edwards. Daw rhyw un amgen at y gwaith hwnnw yn y man, a cheir bywgraffiad teilwngí.o hono'cyn^hir ni obeithiwn. Yr 011 wneir yma fydd rhoi i lawr ychydig adgofion syml am dano, a rhai argraffiadau a dderbyniwyd drwy ddyfod i gyffyrddiad âg ef o bryd i bryd.