Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y Bala y gwelais ef gyntaf, yn y flwyddyn 1863, tra gartref dros wyliau ei Goleg. Gan y byddai gwyliau ei Goleg ef gryn lawer yn hwy na gwyliau Coleg y Bala, byddem ar rai adeg:\n yn 1863-7, yn gweled llawer arno. Un o'r adgofion mwyaf byw sydd gennyf am dano ydyw bod yn nhaith Gwyddelwern yr un Saboth âg ef. Yr oeddym ein dau yn cydwasanaethu y boreu, ond yn ymwahanu am y gweddill o'r dydd. Nid oes gennyf lawer o gof am ei bregeth y tro hwnnw, ragor na'i bod yn llawn a meistrolgar, a bod amryw o'r llinellau a ddaethant yn amlwg iawn yn ei weinidogaeth mewn blynyddoedd diweddarach — y cryfder gorchfygol a'r angerddolrwydd tanllyd­-i'w canfod ac i'w teimlo i raddau yn yr oedfa honno. Yr ydwyf, pa fodd bynnag, yn cofio yn d,b iawn, a choiiaf yn hir eto, os uad byth bellach, am dano nos Sadwrn wedi myned i'n hystafell-wely yn y Brynbrith, llety cysurlawn pregethwyr y daith drwy y blynyddoeM hynny. Aethym i drwy fy nefosiwn fel atfer, ac ni ryfeddwn pe y dywedid ddarfod i mi y nos Sadwrn hwnnw dreulio mwy o amser i geisio offrwm fy neisyfiadau na llawer uo ar ol hynny, oblegyd gwn yn dda fod fy mhryder am y pregethu drannoeth yn fwy dwys nag y bu gyda golwg ar lawer Saboth ar ei ol. Ond wedi i mi fyned drwy fy holl ymarfer- iadau, eistedd yr oedd efe yn darllen ei Destament Groeg yn ddyfal ac astud; ac felly y bu am amser maith. Yna aeth ar ei liniau yn ham- ddenol, a pharhäodd felly am amser maith drachefn — mor faith fel y gŵyleiddiais ac y myfyriais lawer ar hynny y noswaith honno. Cofiais am dano lawer nos Sadwrn yn ystod y blynyddoedd er hynny hyd yn awr. Pan yn gwrando arno yn pregethu ambell oedfa ac oedd yn anarferol o rymus yn anterth ei boblogrwydd, bum yn ymson ynwyf fy hun, — Y mae y gŵr hwn yn parhau i weddïo, ac i gadw cymun- deb agos â Duw ac â Iesu y gwirionedd y mae yn ei draddodi gyda'r fath nerth." Derbyniai yntau gryfder mawr ei weinidogaeth oddifry drwy weddïo. Dros amryw wythnosau yn ystod un o'r blynyddoedd uchod, bu Dr. Lewis Edwards yn analluog i ddilyn ei ddosbarthiadau yn yr Athrofa oherwydd afiechyd. Yr oedd Mr. Thomas Charles yn dygwydd bod gartref ar y pryd, a deuai efe i'r dosbarth Groeg yn lle ei dad. Dar- llen yr oeddid rannau o Ethics Aristotle. Yr oedd y medr â pha un yr elai drwy waith y dosbarth, er nad oedd efe fawr hynach, os dim, na rhai oedd ynddo, yn peri i ni fethu peidio cenfigennu. Yr oedd ei wybod- aeth o'r iaith Roeg, a'i gydnabyddiaeth fanwl iawn â'i Gramadeg, yn ein syfrdanu ni â syndod. Heblaw hynny, yr oedd ei gydnabyddiaeth ëang a manwl âg Ethics, mewn cynnwys a hanes, ynghyd a'r meddiant diogel a'r deall clir oedd ganddo yn y llyfr crybwylledig o eiddo Aristotle, yn peri i ni deimlo ein bod yn cael mantais neu ddwy arbenig y dyddiau hyuny, er ei fod yn gwneud i ni deimlo yn fychain ac anwybodus dros ben. Yr oedd irder ei feddwl yn yr holl waith hwnnw yn nodedig Rhoes ambell wers i rai o honom nad ydym eto wedi ei hanghofio. Wrth gwrs fe ddeuai ei watwareg allan gyda llym- der annioddefol weithiau, yn enwedig pan roddid ambell i atebiad lled amrwd, gyda phwyslais yn sawru braidd o hunan hyder. 0 dan am- gylchiadau o'r fath nid oedd, am wn i, oruchwyliaeth well yn bod na gwatwareg.