Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feddylir wrth ddweyd bod dynoliaeth Orist lIe bynnag y bo ei Dduw- dod fel creadur mae i'w ddynoliaeth ei therfynau, ond fel y mae yn Jehova mae ei gorfforaeth yn llenwi pob màn. Gwahaniaetha Boehme rhwng yr Iesu a'r Crist, gan gyfeirio y naill enw at Dduwdod y Gwaredwr, a'r Uall at ei ddyndod. A'r naill a'r llall a erys am byth. Nid am y bydd i berson y Crist beidio â bod marweiddiad y pechod yn unig, yn yr hyn y gelwir yr Iehova yn Grist, a baid â bod y creadur a erys; ond y Crist sydd yna yn Archoffeiriad tragwyddol yn yr oll, a'r creadur Crist yn Frenin Dynion (At i St. i. 193). Mae'n anhawdd peidio dod i'r casgliad, bod dull Boehme o feddwl ar y mater yn llêd agos at un Martensen ei hunan. Mae M. Llwyd wedi ysgrifennu ar yr un mater yn y Where is Christ f ond gydag ef mae'r pwnc yn raddol yn ymagor i'r mater eangach ynghylch crefydd yn ei hagweddau mewnol ac allanol, ac mor bell ag yr atebir y cwestiwn ganddo ä i gyfeiriad y syniad Lutheraidd. Yr ateb cyntaf ydyw "nad yw Crist ddim a all y llygaid naturiol ei weled," sef ateb a gafwyd eisoes. Mae'r ateb arall a roir o ddyddordeb fel amryw- iad ar ddull nodweddiadol Luther o edrych ar y pwnc, fel y ceir yn y sylw o'i eiddo a ddifynwyd o Martensen. Fel yma M. Llwyd Ond pa anferth wagedd yw dychmygu am yr Arglwydd Crist mawreddus wedi ei gau i fyny yn rhyw ystafell o'r Nefoedd, neu mewn un galon. neu un ffurf neu dýb" (t. 301) Nid oes dim ym M. Llwyd, pa fodd bynnag, yn erbyn y lleoliad o gorff Crist ar ddull uwch nag y mae telerau lleoliad amserol wedi ein cynnefio âg ef. 10. Gair Duw ydyw deddf y Nefoedd. Mae'r ieithoedd gwahanedig, arwyddlun yr hunan-ewyllysiau, wedi peidio yn ymostyngiad yr ewyllys i Dduw, a Gair Duw yw mynegiad llawn pob meddwl o eiddo Duw a'r creadur. Pob peth sydd raid iddynt fyned yn ol eto i'r un, i'r cyffredinol yn y llïosogrwydd nid oes ond ymryson ac aflonyddwch ond yn yr undod y mae gorffwysdra tragwyddol, heb elyniaeth nac ewyllys croes." Yn unol â hyn yr eglurir yr Eiriolaeth fel yn gynwys- edig nid mewn geiriau allanol, ond yn unig mewn fod y Gair tragwydd- ol ei hunan yn ymddangos ger bron Duw. A holl fywyd y Nefoedd sydd ddarostyngedig i'r un ddeddf uchel. Gair Duw, neu yr enw Jehova neu Iesu, yw y "Hefariaid yn y wyddor, ag sy'n dwyn ysbryd y llythyrennau i mawn i un gyDghanedd bur." A'r Nefoedd yw yr ewyllys Dwyfol yn rhoi mynegiad llawn iddo'i hunan, trwy Grist ymhob creadur; ac y mae hyn ynddo'i hunan yn Eiriolaeth oll-effeith- iol yn rhan yr Eglwys Mynegir yr undod ewyllysiad hwn fel deddf y Nefoedd yn yr agoriad i'r Gair o'r Gair: "Nid oes gyda Duw, yr hwn sydd dri yn un, ond un iaith, na chan ei angylion dyallus Ef, ond un dafod iaith briodol; ac yn honno y maent ym moliannu Duw, ac yn siarad â'u gilydd ac â'r seintiau, heb lais tafod, na sŵn geiriau, ond yn ddistaw, nefol a nerthol o'i flaen Ef." 11. Gogoneddwyd Corff Crist, nid y corff personol arno'i hunan, ond yr holl Gorff Dirgeledig yr un pryd, ar y nawfed dydd ar ol yr Esgyniad, "pryd yr agorwyd dôrau y rhyfeddodau mawrion, a'r Apos- tolion a lefarasant yn ieithoedd y Cenhedloedd, fel y gwelid yn amlwg bod yr Ysbryd wedi agor canolbwnc y priodoleddau, a Uefaru trwy- ddynt oll Ysbryd Duw a drywanodd eu calonnau, fel y pwysai