Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1887 ond'yr unig gyfnewidiad a gymerodd le y pryd hwnnw yn^null dwyn y gwaith ymlaen oedd cael y Parchn. D. Charles Davies, M.A., a John Hughes, D.D., yno i draddodi cyfres o ddarlithoedd. Teimlid nad felly y dylai pethau fod, ac nas gellid gwneud heb Brifathraw, beth bynnag am gyfnewidiadau ereill. Trodd y Pwyllgor ei wyneb tuag Aberystwyth, a mawr fu'r cymell a'r perswadio ar y Prifathraw T. C. Edwards i ymgymeryd â llywyddiaeth Coleg y Bala. Taerineb y Cyfundeb a orfu, ac yn 1891 penodwyd Dr. Charles Edwards yn Brif- athraw Athrofa Dduwinyddol y Bala. Iechyd gwan a gafodd Dr. Edwards ar ol dod i'r Bala. Ac heblaw hynny, cyfarfu â phrofedigaethau blinion. Yn 1892 penodasid Dr. Ioan Llewelyn Evans, gynt o Goleg Lane, Cincinnati, America, yn athraw mewn Hebraeg ond, cyn dechreu ar ei waith, bu Dr. Evans farw ar y 25ain o Orffennaf, 1892; ac ar yr 22ain o Fehefin, 1894, bu farw priod Dr. Edwards. Diameu i'r profedigaethau hyn, ynghyd a gwaith caled, beri i'w iechyd waethygu. Yn wir, yn 1897, teimlai fod y gwaith yn ormod iddo. Trefnodd Pwyllgor y Coleg iddo gael cynorthwywr, gan ymddiried y penodiad yn hollol iddo ef. Galwodd yntau y Parch. E. 0. Davies, B.Sc., i'r gwaith. Tua'r Nadolig, 1898, torrodd i lawr yn hollol, ac ni wnaeth ddim gwaith ar ol hynny. Rhyddhaodd y Cyfundeb ef yn 1899 o bob gwaith addysgu ynglýn â'r Coleg, a phenodwyd y Parchn. E. O. Davies a J. Puleston Jones, M.A., i wneud y gwaith-y naill mewn Duwinyddiaeth Gyfundrefuol, a'r llall yn Esboniadaeth y Testament Newydd. Danghosai Dr. Edwards awydd angerddol am fod o ryw wasanaeth, ond yr oedd yn amlwg ei fod yn prysuro tua therfyn y daith. Dydd Iau, Mawrth 17eg, 1900, tarawyd ef yn beryglus wael, a bu farw am chwarter i ddau boreu Iau, Mawrth 24ain. Claddwyd ef y dydd Mawrth dilynol yn Aber- ystwyth. Trwy farwolaeth Dr. Edwards, nid yn unig taflwyd Cyfundeb y Methodistiaid i ddyryswch mawr, ond collodd Cymru athraw dysgedig, llenor gwych, esboniwr enwog, duwinydd cryf, a phregethwr o'r radd flaenaf. Ond, wedi marw, yn llefaru eto." Gellid ysgrifennu llawer am Dr. Edwards fel athraw. Cymerai olwg eang iawn ar ddyledswyddau y swydd honno. Cafodd Coleg Aber- ystwyth gychwyn o dan arweiniad gŵr oedd yn fyw i'r syniad nad rhoddi hyn a hyn o waith am arian yr oedd. Nid ydym yn sicr nad oes yn ein Colegau rai athrawon nad ydynt erioed wedi codi uwchlaw tawelu eu cydwybodau trwy wneud yn unig yr hyn y rhaid ei wneud, a llai os gallant. Ni freuddwydiant am hunan-ymwadiad. Danghosai Dr. Edwards bob amser awydd angerddol am wneud cymaint ag a allai, ymhob rhyw fodd, er cynorthwyo pobl ieuainc. Cydymdeimlai â hwy, ac ymdrechai ddeall eu hanawsterau. Pan welai ddyn ieuanc ymdrech- gar yn gorfod ymladd yn erbyn tlodi, mynnai, o bai bosibl, rwyddhau'r ffordd i un felly. Dyna fu ei hanes yn Aberystwyth, dyna fu ei hanes yn y Bala. O'i gyflog o £ 600 yn Aberystwyth, dywedir y rhannai'n flynyddol tua £ 200. A phan, ar ol dod i'r Bala, yr oedd ei gyflog £ 100 yn llai, rhannodd mewn un diwrnod, medd y Proff. Ellis Edwards, gymaint a £ 80. Nis gallai feddwl am i efrydydd gweithgar fod mewn eisieu. Ond nid oedd ynddo'r gronyn lleiaf o gydymdeimlad â diogi.