Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr eglwys. Er nad yw yn foddion o ras arbennig, y mae yn foddion arbennig o ras. Y rheswm am hynny yw fod ynddo gyfarfyddiad o ddylanwadau neillduol cyfaddas i fywiocau a dwyshau myfyrdod ysbrydol. (a). Yr arwyddion gweledig. Nid oes neb o'r saint^ ar y ddaear 0 leiaf, uwchlaw manteisio ar y gweledig, ac nid doeth i neb geisio bod. Pan y mae pechadur yn cyrhaedd addfedrwydd mewn duwioldeb, nid darfod â'r arwyddion y mae efe yn hytrach y mae yr holl greadigaeth yn dyfod yn arwyddluniau o'r ysbrydol iddo, nes gwneud pob dydd yn Sabath, a phob pryd o fwyd yn Sacrament." (b) Y weithred bendant o gyffes gyhoeddus. Wrth fwyta o'r bara hwn, ac yfed o'r cwpan hwn, yr wyf yn tystio gerbron Duw a'i ethol- edig angylion, gerbron daear ac uffern, fy mod yn derbyn Iesu Grist yn Arglwydd ac yn Geidwad. (c) Yr holl eglwys yn ymuno mewn gweithred syml nad oes ystyr iddi ond eu hundeb â Christ, ac â'u gilydd yng Nghrist. (d). Y weithred honno yn crynhoi holl wasanaeth yr eglwys, y mawl, y weddi, y pre^ethu, a'r cyfrannu i un pwynt. Y mae llwyddiant y cwbl yn dyfod i hyn Yr ydym yn y weithred arwyddocaol hon yn derbyn iachawdwriaeth Daw yn Nghrist." (e) Y weithred hon yn cael ei chyflawni gan syllu ar yr un ffaith anfeidrol sydd yn sylfaen gobaith yr eglwys acyn fywyd ei holl wasanaeth, yr un ffaith sydd yn ganolbwynt yr holl Efengyl, — Farw o Grist dros ein pechodau ni." Fe gaiff credadyn ystyriol yn y profiad o hyn oll ddigon o reswm dros gyfrif fod arbenigrwydd yn perthyn i'r Sacrament Swper yr Arglwydd yn rhestr ordinhadau yr Efengyl, heb feddwl o gwbl fod ynddo un math o weithgarwch o du Crist nac 0 du credadyn gwahanol yn ei natur oddiwrth yr hyn sydd gyffredin i'r holl ordinhadau. Nid oes dim yn cael ei ennill wrth geisio dyrchafu yr ordinhadau arwyddocaol uwchlaw cymdeithas yr ordinhadau ereill. Ymroad i gyd-ddyrchafu y cwbl sydd eisieu, ymroad i sylweddoli gwir bresen- oldeb Duw yng Nghrist ynddynt oll. Fe welir yr ordinhadau ar- wyddocaol yn eu gogoniant real pan eu ceir yn grynhoad a mynegia o ddiwydrwydd ysbrydol yr eglwys gyda'r holl ordinhadau ymhob cylch, yn bersonol, teuluaidd, ac eglwysig. Ac y mae pob peth a all demtio dynion i fyw ar gyflawniadau sacramentaidd, ar wahân oddiwrth hynny, ym milwrio yn erbyn yr Efengyl. Birmingham. J. PRICHARD. O.Y.-Yn rhy ddiweddar i sylwi arni yng nghorff yr ysgrif y tarewais ar Araeth y Parch. W. M. Lewis yn llyfryn. Nid oes gennyf ond gobeithio ei fod ef, erbyn hyn, yn synied yn amgen am ddysgeidiaeth Zwingli. Yr athraw Parohedi^ II. Williams, M.A., sydd yn gwneud cyfiawnder â Zwingli. Yr wyf yn cydymdeimlo yn ddwfn â Mr. Lewis am yr angenrheidrwydd o roddi arbeu- igrwydd ar wasanaeth y Sacrament. Nid yw efe ohwaith yn cyfrif fod athraw- iaeth y Gyffes Ffydd ar y pwno yn wan nao yn deneu. Eiddigeddu y mae efe am i'r rhai y tybia eu bod wedi llithro yn ol ddychwelyd at yr urddas a'r bri a roddid ar y Sacrament yn nyddiau Mr. Charles. Yn hyn yr wyf yn cwbl gytuno J.P.