Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tnwedig eu tad cyfaddefedig oll, y dwyfol Plato," fel y geilw Schopen- hauer ef. Cymhwysder anhebgorol i ddilyn prif gamrau yr addysg yw astudiaeth o athroniaeth gymhariaethol. Ond ar hyd tfordd yr ym- chwiliad rhaid wrth oleuni arweiniol rhyw osodiadau ag sydd yn gyffredin iddynt. Rha'.d cydbwyso y cymhariaethol a'r personol. Gofyniad anhawdd ei ateb yw, Pa faint 0 gynnyrch meddwl sydd yn dod i ddyn fel treftadaeth, a pha faint sydd yn ymffynonniad natur a chalon y dyn ei hun ? Ond y mae y ffaith fod y gofyniad yn cael ei leisio ym myned ymhell i brofi mai doeth yw cymeryd sylw o'r ddwy elfen wrth ffurfio barn. Daliwn fod eisieu astudio S. fel dyn er mwyn ei ddeall fel athronydd. Yr ydym yn arfer y gair dyn yn ei ystyr eangaf fel sail personoliaeth, ac nid yn arbennig mewn ystyr foesol, er nas gellir anwybyddu yr elfen honno. Nid anhawdd fyddai dangos rhwymedigaeth neillduol S. i'r cewri a aethant o'r blaen ym myd athroniaeth, a'i ymddiried gonest i'w casgl- iadau cyffredinol. Beth fuasai heb astudiaeth o Plato, anhawdd yw barnu, a llawer mwy anhawdd datgan. Ei eglurder dwfn ef ddeffrodd feddwl S. gyntaf. Ac, i ddyfod yn nes, y mae ei warogaeth i Spinoza a Kant yn amlwg. Ond astudiodd hwy trwy y gwydrau a roddodd yr hen athronydd iddo Efe oedd y safon. Ac nid yw yn unrhyw anghlod iddo ef, mwy nag i ereill llai amlwg, iddo roddi ei holl nerth i gloriannu gwerth y defnyddiau oedd wrth law iddo. Ar yr un pryd nid adlais o'r enwogion a nodwyd ydoedd. Yr oedd yn derfyn. Ond nid oedd yn rhoddi dim yn ol yn union yn yr un ffurf ag y derbyniodd. Nid derbyn fel addolwr yr oedd, ond fel my- fyriwr. Gwir fod ei fyfyrdod yn troi yn fath o addoliad. Camgymer- iad cyffredin yw gwneud addoliad yn achos yn hytrach nag effaith. Parch wedi ei wreiddio mewn ymdeimlad o werth sydd yn arhosol. Yr oedd ef yn cyfoethogi ei hun o bob oes a phob personoliaeth. Ac felly ni chanfyddai unrhyw angenrheidrwydd am ddyrchafu un oes neu berson uwchlaw un araU. Yr oedd ei barch hyd yn oed i'r sawl a edmygai ddyfnaf yn gymhariaethol ac yn gynyddo!. Am rai y dywedir eu bod yn gynnyrch eu hoes. Byddai llawer o wir yn hawl S. ddarfod iddo greu oes newydd. Mawn rhai cyffelyb iddo ef y mae pob oes yn canolbwyntio, ac yn cael hyd i'w neges. Cawn engraifft yn hanes y gwr hwn o'r dywediad mai byr 0 angen- rheidrwydd yw bywgraffiad dynion o athrylith fawr." Mewnol yw eu hanes Dadblygiad eu meddwl yw y dyddordeb a berthyn iddynt. Felly ychydig o oleuni a deflir ar bersonoliaeth S. gan ffeithiau noeth. Nid ydym yn dyfod fawr nes iddo trwy nerth y wybodaeth iddo gael ei eni yn Dantzig, iddo fyned am gwrs o addysg ym Mhrifysgol Jena, ac, yn ol arfer y dyddiau hynny, iddo gymeryd taith hir drwy Ewrob. Ond y mae gwerth yn perthyn i'r hyn a orwedda dan y ffeithiau. Cy- merer man ac amser ei enedigaeth fel engraiflt. Plentyn yr ystorm ydoedd. Yn nyddiau ei febyd yr oedd rhyfel ofnadwy y "deng mlyn- edd ar bugain ar ei heithaf, ac y mae Dantzig yn ei pherthynas agos â'r rhyfel yn esboniad ar y trychineb a faethodd natur anghymesur a therfysglyd S., ac a adawodd ei ol yn barhaol arno. Cymerer eto ei deithiau. Ei arfer oedd edrych ar bopeth trwy gyfrwng ei dueddfryd cynhenid ei hun. Ac yn unol â hyn nid oedd Llundain ym meddwl