Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ewyllys mae'r anhawsder. Dyma faes pob gwir ymchwiliad ac ymdrech. Nid yw hyn yn ein gwasgu i ddyfod i'r uu casgliadau â S. Nid ydym yn barod i ddweyd mai "y pechod mawr o eiddo d yn yw iddo gael ei eni i'r byd 6 gwbl." Ond hyn sydd sicr-y foment y daw, y mae yr ymdrech â'i ewyllys yn dechreu, ac y mae yn glynu wrtho trwy wlaw a hindda, trwy lwyddiant ac aflwyddiant. Nid yw S. yn aml ond dweyd yr hyn y mae pob dyn difrifol yn ei deimlo. Y tristwch mawr yw iddo aros yn ei ddyrysni. Yr ydym yn parchu ei ddifrifwch. Nid oes ond dirmyg i'w roddi i'r sawl sydd yn anwybyddu baich bywyd. Y maent wedi cael eu desgrifi.o i bwrpas They sit on a cloud and sing-like pictured angels, And say the world runs smooth While right below Welters the black fermenting heap of grief Wheron their state is built." Y mae pob gwir ddynoliaeth yn ceisio ymarllwysiad mewn amheuaeth ar adegau. Y sawl nad amheuodd erioed nid yw ei ffydd ond brwynen. Yn wir y mae Calfiniaeth yn ei ysbryd yn cydio dwylaw â rhai o egwyddorion S. Cyffes Ffydd yn llawn o ewyllys yw yr eiddom ni; ac am hynny yn llawn 0 beryglon. Yr oedd S. yn cyfaddef ei fod yn Galfin i raddau. Wedi dyfod i ryw fan o ran ei feddyliau, ymdeimlai fod yna rywbeth ar y ffordd ­×yr oedd ei ewyllys wedi gweled ei therfynau. Fan yna yr ydym ni yn addoli Duw. Gogoniant parhaus y ihaid yna yw fod yno bersonoliaeth gadarn tucefn. Ond y mae yr athronydd yn colli golwg ar y personol, ac yn suddo i anobaith. Dweyd fod i gyfundrefn S. ei gwallau yw cyfaddef mai dynol yw. Gresyn mai dynol heb oleu y dwyfol yw hefyd Adeilad yn gorffwys ar ddwy golofn sigledig iawn yw ei addysg-yr amhersonol a'r di-foesol. Nid oedd yn wrth-foesol. Amddifadrwydd, ac nid gwrthryfel, a welwn. Y mae y moesol wedi ei wasgu allan o'i athroniaeth, Ac y mae hynny yn hawdd i'w ddeall, pan nad oedd iddo weledigaeth glir am werth y personol. Oblegyd afraid yw son am y moesol ar wahân i'r personol. Nid yw yn bod. Mewn gwedd arall gwendid mawr ei addysg yw fod ynddi can lleied o'r cadarnhaol. Dywedir wrthym lawer am yr hyn nad yw yn bod. Ië, i'r fath raddau, nes ein tueddu i ofyn mewn penbleth, Beth sydd wedi ei adael wedi y difrod mawr didrugaredd Ni ellir yn y diwedd adeiladu bywyd ar wadiad noeth. Dywed S. lawer am dangnefedd, ond nid yw yn ei ddwyn i feddiant neb. Yr ydym yn troi oddiwrtho gydag ochenaid o ryddhad at Iesu Grist, "athronydd y dyn tlawd." Nid yw yn esbonio popeth. Amheuwn yn wir a yw yn hollol ddadrys rhywbeth. Ond, os nad yw yn egluro, y mae yn dangos. Os nad yw yn dinoethi hanfod cyfiawn- der, y mae yn ei fyw, ac yn marw er ei fwyn. Ac yn yr olwg arno fe ddywedwn ninnau Pwllheli. O waedlyd Oen Y gwir foesoldeb yw dy garu di. J. T. Priohard.