Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hanes dyn. Gall y cyffredin ofyn, pa fodd y mae yn bosibl i'r un gair olygu cysuro a gofidio (edifarhau) ? Hawdd yw esbonio hyn yn hanes y gair hwn. Tra mae y gŵr sydd yng nghanol ei brofedigaeth yn meddwl am ddim ond ei ofid, mae'n bosibl fod iddo gyfaill mwyn a thirion ag sydd 0 galon yn cyd-ofidio âg ef. Os yn cyd-ofidio mewn gwirionedd, yn sicr nis gall unpeth luddias iddo ddangos hynny i'w gyfaill mewn gair neu weithred. Ac os yn dangos hynny, bid sicr. er mai cydymdeimlad gofidus yw, eto y mae yn sicr 0 beri lluddías rhyw faint ar ofid ei gyfaill. Pennaf gysur y profedigaethus yw cyd- ymdeimlad tyner cyfaill cywir. Pwy all fesur cysur Mair a Martha yng nghanol eu profedigaeth drom, wrth iddynt sylwi ar ddagrau tryloew yr lesu ? Uwch geiriau fyddai ei ádeffinio. Cydymdeimlad dwfn yr Iesu oedd yr achos; cysur y chwiorydd, a llawer cyffelyb chwaer ar ol hynny, oedd yr effaith. Yn y wedd hon gall y neb a fynno weled perthynas agos y ddwy ystyr hyn i'r un gair. Gwahannol ffurf y gair fyddai yn foddion i'r Hebreaid i ddatgan y gwahannol ystyrron hyn. Tybiwn, ynte, fod hyn yn ddigon o esboniad ar y gwahanol ystyron. Teimlad profedigaethus yw ystyr y gair; os teimlad y profedigaethus ei hun a ddesgrifir, yna gall olygu cysur neu ofid," — gofid oherwydd ei brofedigaeth, a chysur oherwydd cydymdeimlad ei gyfaill âg ef. Yn awr, gellir dilyn ystyr y gair mewn gwahanol gysylltiadau, gan ddechreu, bid sicr, gyda'i ystyr ymarferol symlaf yn yr H.D. i. Yn gyntaf, teimlad drylliedig y profedigaethus megys ei lleddfir gan gydymdeimlad cynnes cyfaill. Desgrifia yr holl engreifftiau hyn hanes y duwiol yn y brofedigaeth o golli perthynas, câr anwyl ei fynwes. Darfu i Joseph gysuro ei frodyr yn yr Aifft ar ol iddynt golli eu hanwyl dad, Jacob (Gen. I. 21). Yr oedd eu profedigaeth yn ddeublyg: collasant eu tad, a chollasant eu hunig gyfryngwr rhyngddynt â'u brawd a werthasant unwaith. Beth fyddai eu rhan ? Pa faint oedd eu colled ? Profodd cariad brawdol Joseph yn gryfach na'i ysbryd i ddial. h'offodd gysuro ei frodyr profedigaethus trwy ddangos iddynt bob cydymdeimlad ag oedd 0 fewn ei allu. Wedi diflaniad Joseph, ceisiodd ei frodyr gysuìo eu tad yn nyfnder ei ofid (Gen. xxxvii. 35). Wedi i Job golli popeth a feddai ond ei wraig, yn dra ystyriol daeth ei gyfeillion dan ddylanwad cydymdeimlad âg ef i'r penderfyniad y mynnent geisio ei gysuro (Job ii. 1 1). Os methasant (xvi. 2, xxi 34), nid ar eu cydymdeimlad yr oedd y bai. Culni eu golygon a haiarn- eiddiwch eu duwinyddiaeth oedd y rheswm pennaf am hyn. Ar ol marw Nahas o feibion Ammon, gallai Dafydd anfon at Hanum ei fab genhadaeth i'w gysuro (1 Chro. xix. 2). Wedi colli ei fam dyner, gallai Isaac blentynaidd yng nghanol ei ofid ei anghofio i ryw raddau trwy ymserchu yn ei briod hardd Rebeccah, yr hon a brofodd iddo yn llawn o gysur (Gen. xxtv. 67). Ac nid anawdd oedd i'r cadarn Judah, gyda'i holl allu deallus a hunanlywodraethol, fedru cysuro ei hun ar 01 marwolaeth merch anwyl Sual ei fab (Gen. xxxviii. 12). I bawb mewn profedigaeth o'r fath mae dagrau cydymdeimlad cyfaill, neu ystyr- iaethau am ddaioni trefn Duw, yn foddion diffael i weinyddu pob cysur angenrheidiol i oddef y brofedigaeth fel dyn a gŵr Duw. Us cysuro," yntc, yw ystyr y gair yn y ffurf hon, yn y cysylltiadau hyn golyga y