Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BYWYD GLADSTONE GAN MORLEY.* DYMA deitl un o brif lyfrau y dydd, sef tair o gyfrolau mawrion, yn cynnwys 1975 o dudalennau. Bu llawer o ddisgwyl am dano, ac argraffwyd ugain mil o hono ond er fod y pris yu 42s gwerthwyd yr argraffiad cyntaf mewn ychydig ddyddiau, a bu raid argraffu ugain mil arall i gyfarfod â'r galw am dano. Mae yn debyg mai Gladstone oedd un o'r gwladweinwyr mwyaf a welodd Prydain erioed, ac efe hefyd oedd un 0 ddynion mwyaf ei oes ar gyfrifon ereill. Yr oedd ei ddysgeidiaeth ddigymar, ei dalentau disglaer, ei hyawdledd diguro, ei onestrwydd anhyblyg, a'i grefyddolder pur, yn cael eu cydnabod ymron gan bawb. Darllenasom y tair cyfrol gydag awch, a phrofasom hwynt mor swynol ag un ffugchwedl a gyfansoddwyd erioed. Yr oedd yn anhawdd eu gollwng 0 law nes cyrraedd y diwedd. Mae Morley wedi gwneud ei waith yn rhagorol. Pan gofier ei fod yn cael ei alw yn fynych yn honest John," a'i fod yn llawn deilyngu yr enw, y mae rhai pobl wedi gresynu ei fod wedi troi o'r neilldu oddiwrth ei waith cyhoeddus fel Seneddwr i gyfansoddi y llyfr hwn oblegyd os bu adeg erioed ag yr oedd gonestrwydd yn brin yn ein gwladweinyddiaeth, y blynyddoedd y bu efe yn ysgrifennu y llyfr hwn oedd yr adeg honno. Yr ydym wedi nodi crefyddolder fel un o'r rhinweddau amlwg oedd yng nghymeriad Gladstone, ac fe allesid meddwl fod Morley ar gyfrif ei ddiffyg credo crefyddol yn un tra anghymwys i ysgrifennu hanes bywyd y fath un a Gladstone. Y mae efe ei hun yn teimlo hynny, ac yn cyfeirio at y ffaith yn ei Ragymadrodd. Dywed na cheir yn y llyfr hanes manwl am Mr. Gladstone fel duwinydd ac eglwyswr, ac nad oedd neb yn teimlo mwy oherwydd y diffyg hwn na'r bywgraffydd. Yr oedd Mr. Gladstone yn gofalu cymaint am yr eglwys ag am y wladwr- iaeth ac edrychai ar yr eglwys fel enaid y wladwriaeth. Creda Mr. Morley er hynny fod mauteision ynglŷn a'i fod ef yn sefyll megys y tu allan, gan nad oedd yn cael ei lusgo i ganol creigiau partion eglwysig. Wrth ddarllen y cyfrolau hyn yr ydym wedi cael ein taro â eyndod wrth The Life of William Ewart Gladstone by John Morley, in 3 Voh. Maomillan. and Co., Limited.