Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddifrif mewn drygau eisieu eu symud, ac yn dibynnu ar deimlad moes- ol a gonest y Tj, a chydymdeimlad cyffredinol pobl Lloegr â phob gwir ddiwygiad." Yr oedd Newman wedi ysgrifennu ato mor bell yn 01 ar y cwestiwn a ddylai fod gan y wladwriaeth gydwybod, ac, er nad yn yr ystyr a olygai Newman ar y pryd, yr oedd y syniad wedi medd- iannu ysbryd Gladstone trwy ei oes, Nid oedd dyrys bynciau plaid yn ei flino ond ychydig. Credwn mai dyma syniad mawr ei holl fywyd gwladwriaethol. Pan ynghanol ei helynt fawr yn achos yr Iwerddon y mae yn ysgrifennu at ei fab Henry yn India, a dywed, "Er mor fyrr fu tymhor gweinyddiaeth Arglwyid Salisbury, ni ryfedd- wn i ddim pe byddai hon yn ferrach, gan fod cynifer o gwestiynau yn crynhoi o gwmpas y pwnc Gwyddelig. Ond y peth mawr ydyw bod yn iawn, ac, mor bell ag y mae pethau wedi myned, nid wyf yn gweled un lle i bryderu ar y cwestiwn gorbwysig hwn." Ië dyma'r peth mawr ydyw bod yn iawn. Yr hyn sydd yn blino ysbryd dyn y dyddiau hyn yw fod materion plaid­-buddiannau plaid, rhagolygon plaid, ac elw arianol plaid, yn cael y sylw blaenaf, a rhy ychydig o feddwl am yr hyn sydd iawn. ELEAZAR ROBERTS. Tachwedd, 1903. CRIST Ä'I AMGYLCHEDD. PRIODOL, hwyrach, ydyw eglurhad ar achlysur penawd fel yr uchod. Daeth y cynhyrfiad cyntaf o'r tu allan. Gweled erthygl o dan y geiriau Dylanwad amgylchedd Ei fywyd daearol ar Grist" a roddodd dueddiad i ychydig o fyfyrdod uwchben y mater. Ar yr olwg gyntaf ymddengys yr ateb yn hawdd. Yn wir, nid yw yn eglur fod mwy nag un ateb yn bosibl. <»'r hyn lleiaf nid ymddengys fod i awdwr yr erthygl le i ddadl o gwbl. Y mae ei holl ymresymiad ar un ochr. A pha un bynnag a ydyw wedi datgan yr holl wir, y mae yr oll a ddywed yn wir. A chymaint yw pwysigrwydd y gwirionedd fel y mae yn rhaid gosod pwyslais arno, pe bai ond i osgoi camddealltwriaeth. Fel hyn yr egyr yr erthygl Faint o ddyled oedd ar Grist i'w amgylchedd Î Nid ffrwyth y dylanwadau a ymgasglent o gwmpas ei gryd ydoedd. Wedi ei eni yn Judea, a'i fagu mewn Iddewiaeth, y mae yn dyrchafu o honynt fel y dyrcha yr Haul uwch y niwliog wawr." Auhawdd fuasai gwella ar y datganiad-y mae yn deg, cadarn, a grasusol. Nertha yr awdwr ei olygiad trwy edrych ar y Gwaredwr yn ei berthynas â'i wlad, â'i bobl, â'i gartref, â'i addysg. Ac yna y mae yn dirwyn y mater i fyny trwy honni fod Crist yn sefyll o'r tu allan i'r dylanwadau hyn, ac nas gallant ei esbonio. Y mae yn sefyll ar ei ben ei Hun yn y pethau a ganlyn:— Ymwybyddiaeth llawn o Dduw, cyfiawnder, tosturi at ddynion."