Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BORE'R BRIODAS. I. GWEDI'R hir gyfeillach gynnes Gymer le rhwng mab a merch- Draidd fel hylif rhwng dwy fynwes- Hylif pur o drydan serch- Wedi disgwyl a gobeithio 'Nghwsg ac effro, dymor hir, Y mae'r bore wedi gwawrio Gyda'i heulwen dlos a chlir. II. Dyma fore nad â'n anghof Na chyffredin, drwy yr oes Erys hwn yn fyw mewn adgof Ymhob gwynfyd-dan bob croes,- Bore rho'i a derbyn arwydd Rwyma'r ddeuddyn hyd y bedd, Ond, er hyn, â gwirfoddolrwydd Pur galonnau iddo'n sedd. III. Hapus iawn, ym myd gofidiau A chynhennau, o bob rhyw, Weled dau yn gŵylaidd sefyll, Law yn llaw, wrth allor Duw, Ac yn ymdynghedu'n serchos, Doed a ddêl, i fyw ynghýd, A chyd-ddrachtio mêl a wermod Amgylchiadau gwamal fyd. IV. Os oes nefoedd ar y ddaiar Gyfnewidiol, dyma hi, Mewn dwy galon, bur a hawddgar Unir heddyw yn eu bri. Nid yw'r gwisgoedd oddi-allan, Nid yw'r aur â'r gèmau derch, Ond cysgodau gwael ac egwan O deleidion mewnol serch. v. Teg, e" hynny, i gelfyddyd Wneud ei rhan i ddathlu'r dydd, Ac i Natur ei goroni Gyda'i blodau glân a blýdd