Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'R un yw iaith y fodrwy euraidd Ar arw fys yr eneth dlawd Ag ar dyner, bendefigaidd Fýs yr hon goronodd ffawd. Fore swynol y brodas Y mae'r allwedd yn dy law, Egyr ddôrau ystafelloedd Dirgel y dyfodol draw Ceir o fewn i gylch y fcdrwy Gron, yn gorwedd heddyw 'n nghudd, Hylif bery yn ngwythenau Cymeriadau oesau fydd. Llandudoch. DAU LYFR NEWYDD AR YR EGLWYS GELTAIDD YM MHRYDAIN A'R IWERDDON. [Ar wahoddiad Dr. Kuno Meyer ysgrifennodd y Proff, H. Williams, M.A., Bala, erthygl i'r Zeitschrifft für Celtische Phìlologie ar y llyfrau y oyfeirir atynt isod o waith Dr. Zimmer, ac ar gais y Gol. paratodd dalfyriad o honynt (gan adael allan fanylion), i'r Traethodydd. Mae yr hyn a ddywedir yn Rhan II. yn newydd, heb fod yn yr ysgrif wreiddiol.—Y GoL.] YR ydym ni, Gymry, dan ddyled fawr i ysgrifenwyr Ellmynaeg ar gyfrif eu hymchwiliadau eang a llafurfawr i'n hiaith a'n hanes; ochr yn ochr â'r ymchwiliadau hyn i'r iaith Gymraeg, ac er eu mwyn, maent wedi dwyn i ni etiieddiaeth eang ynglŷn âg iaith a hanes yr Iwerddon, yn ogystal ag ieithoedd ereill o'r teulu Celtaidd. Eto mae gwyr dysgedig y wlad hon, a rhai Cymry rhagorol yn enwedig, ar ol myned i mewn i lafur yr Ellmynwyr, a chyda phob parch ac edmygedd i'r llafur hwnnw, wedi datgan ac egluro yn fynych fod rhywbeth yn ddiffygiol yn y cynnyrch. Nid yw yr ebran bob amser yn ebran pur cwynir hefyd fod y sacheidiau yn aml yn rhy lawn. Er hyn oll, fel y dywedwyd, yr ydym yn nyled y gwyr ymchwilgar hyn, ac nid y lleiaf 1. Pelagius in Irland. Texte und Untersuchungen zur patristisohen Litteratur, von Heinrich Zimmer. Berlin. 2. The Celtich Churchin Britain and Ireland. London David Nutt. Cyfieithiad o'r Erthygl Eeltische Eirche yn y Realeuoŷklopädie ftir Protestantische Theologie und Kirohe, X, IX. J. MYFENYDD MORGAN. DR. HEINRICH ZIMMER.*