Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cul caled, ychwaith, oedd syniadau mynachaidd Gildas, fel y gwel unrhyw un a ddarlleno ei Weddillion na, yr wyf yn teimlo nad arhosodd Dr. Zimmer yn y gloddfa hon yn ddigon hamddenol i weled y cerrig yn deg, nac i ganfod eu hamledd nid yw y saerniaeth, gan hynny, y peth y dymunem. Rhaid cau y llyfr bellach er gwahaniaethu yma ac acw oddiwrtho, ac yn arbennig yn ei syniadau am St. Padrig, lle y mae tudalennau cyfain lawer nas gallwn ond eu gwrthod yn hollol, yr ydym yn llawen iawn o'i gael, ac yn ddiolchgar am y fath waith a gafael ynddo. Mae yr awdwr yn feiddgar ac yn abllle yr ymddengys ei fod yn cyfeiliorni yn fawr. Y Bala. HUGH WILLIAMS. YR EGLWYS A BYRDDAU LLEOL Pa gyfarwyddyd sydd gan yr Eglwys i'w roi i aelodau y gwahanol fyrddau sydd yn awr mor aml yn ein gwlnd ? A oes gan yr Fglwys ryw genadwri at aelodau y Cyngor Sir, y Cyngor Tref, neu'r Cyngor Plwyf A oes ganddi ryw neges ar iechyd a goleu a dwfr ac addysg ? Y mae llawer 0 ddynion da yn aelodau ar y pwyllgorau hyn ac yn wir awyddus am wella y byd drwyddynt. Diau fod llawer o ddynion hunangeisiol a cham eu moes yn ymwthio iddynt, a llawer o rai di- ddrwg di dda. Nid. oes a wnelom ni yn yr ysgrif hon ond â'r dosbarth cyntaf yn unig, sef y rhai sydd wir awyddus i wneud eu dyledswydd yn ddoeth ac yn dda. Wrth amcanu at hyn gwneir camgymeriad mynych gan ddynion rhagorol. Weithiau oherwydd diffyg amgyffred yn briodol yr hyn y dylid anelu ato; bryd arall drwy gymeryd golwg rhy unochrog neu rhy gul ar y cwestiynau fo o'u blaen. Nid yw uniondeb na chydwybodol- rwydd yn ddigon i ddiogelu neb rhag gwneud camgymeriadau. Deillion yn arwain deillion yw llawer hyd yn oed o'r rhai goreu. Oes ymarferol yw hon, a gofynnir am ateb parod i bob cwestiwn, gan nad pa mor ddyrys y bo. Yr ateb parotaf gan lawer yw yr un agosaf, y mwyaf arwynebol, yr hawddaf ei weled a'i roi mewn gweithrediad. Ychydig ystyriaeth a roddir yn fynych i gwestiynau yng ngoleu hanes a phrofiad, a phrin iawn yw y bobl a allant ehedeg yn ddigor uchel i gymeryd golwg gwmpasog ac eang arnynt. Nid oes un weithred o eiddo cyngor cyhoeddus, mwy na pherson unigol, yn sefyll yn hollol arni ei hun. Y mae blaen ac ol i bob un. Dylid holi beth fydd canlyniadau pell yn