Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ddynion rhydd am gysurou corfforol pa mor felus bynnag. Nii cerdod sydd ar y tlawd eisieu, ond cyfleusterau nid rhoddion, ond gallu i helpu eu hunain. Felly ni bydd un cynllun yu iawn o ddar- par tai i'r dosbarth gweithiol yn derfynol oni bydd yn bosibl i'r gweithiwr fyw yn ei dy ei hun. Rhodder cymhellion teg i hyn, fel y cynhyrcher awydd yn y dyn ei hun i wingo o'i wendid a'i anhawsterau ac i orchfygu ei amgylchiadau. Rhodder i'r egwyddorion hyn chwareu teg yn ein cynghorau trefol, yng ngweinyddiad deddf y tlodion, yn addysg plant ein gwlad, ac fe lenwir y wlad yn fuan â dynion byw. HENRY LEWIS. Bangor. DISGYBLÄËTH EGLWYSIG YN Y DRYDEDD GANRIF. III. YN niwedd ein hysgi'.f flaenorol (Medi, 1903) gwelsom yr eglwys yn Hhufain wedi ymrannu ar y cwestiwn o ddewisiad esgob yn olynydd i Fabian, a ferthyrasid yn l:cchreu erledigaeth Decius. Gan mai dis- gyblaeth eglwysig oedd pwnc y dydd" yn yr eglwysi Cristionogol yn gyffredinol yr adeg hon, ar y mater hwn y trodd yr etholiad yn Rhufain. Y gwr a ddewiswyd oedd Cornelius, yr hwn oedd â'i ddaliadau yn gymedrol, a'i ymddygiad tuag at y cwympedigion yn dyner. Ond nid oedd y dewisiad hwn yn boddhau pawb. Ymffurfiodd y lleiafrif yn blaid ar eu pennau eu hunain, a dewisant ftovatian yn wrth-esgob i Cornelius. Dyma yr enghraifft gyntaf o ymrwygiad (schism), ar wahân oddiwrth heresi, yn yr Eglwys Gristionogol — hynny yw, pleidiau yn ymwahanu, nid ar fa^er o athrawiaeth, ond ar fater o wladlywiaeth ymarferol. Yn unol âg arferiad gyffredin y dyddiau hynny, anfonodd Cornelius lythyrau i'r gwahanol eglwysi, ar hyd a lled y gwledydd, yn hysbysu ei etholiad i gadair Rhufain. Feb golli amser anfonodd Novatian yntau lythyrau yn gwrthwynebu etholiad Cornelius, ac yn dwyn cyhuddiadau pwysig yn ei erbyn. Yr oedd Cyprian erbyn hyn newydd ddychwelyd; i Carthage o'i alltudiaeth a chyrhaeddodd y ddau lythyr-yr eiddo Cornelius a'r eiddo Novatian — i'w ddwylaw yr un adeg. Yn naturiol taflwyd Cyprian i gryn benbleth. Ar y naill law, teimlai yn gryf dros urddas y swydd esgobol ar y llaw arall, yr oedd yn eiddigeddu^ o blaid purdeb. Yn awr, am y tro cyntaf erioed, teimlai fod y ddau eiddigedd hyn yn gwrthweithio eu gilydd. O'r blaen, wrth ymladd