Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(1) Yr oedd henuriad o'r enw Victor wedi syrthio yn adeg yr eried- igaeth. Gwnaeth gais am dderbyniad yn 01 i'r eglwys, a nodwyd cyfnod o edifeirwch iddo, ar ol pa un yr oedd i gael ei dderbyn. Hwyrach y dylasem fod wedi dweyd, cyfnod o benyd canys yr oedd y syniad syml o edifeirwch Cristionogol, er ys tro cyn hyn, wedi dech- reu ymddadblygu i'r syniad o benyd. Pa fodd bynnag, cyn i'r cyfnod apwyntiedig ddirwyn i ben, darfu i esgob o'r enw Therapius, ar ei gyfrifoldeb ei hunan y mae yn debyg, dderbyn Victor yn ol i gymun- deb. Hysbyswyd yr achos i Cyprian, a galwodd yntau Gynghor, yr hwn a adnabyddir fel trydydd Gynghor Carthage. Yr oedd chwech a thrigain o esgobion o wahanol eglwysi Affrica yn bresennol yn y Cy- nghor hwn, ac yn eu plith yr oedd Therapius, achos yr hwn oedd dan sylw. Pasiwyd pleidlais o gerydd arno ef gan ei gyd-aelodau yn y Cynghor ond y fath oedd eu syniad am urddas swydd esgob, fel nad oeddynt yn teimlo yn rhydd i ddadwneud yr hyn a wnaethai Therapius, Felly, er dyfarnu o'r Cynghor fod derbyniad Victor i gymundeb cyn ei amser yn amhriodol, eto am fod yr hwn a'i derbyniasai yn esgob, caniatawyd iddo barhau mswn cymundeb. (2). Yr oedd esgob o'r enw Fortunatianus wedi syrthio i'r math gwaethaf o wrthgiliad­-wedi aberthu i'r duwiau. Darfu i'w eglwys, mewn canlyniad, ddewis un o'r enw Epictetus yn esgob yn ei le. Pan dawelodd yr erledigaeth, mynnai Fortunatianus gael ei esgobaeth yn ol, gyda'r awdurdod a'r buddiannau ariannol a berthynent iddi. Apeliodd yr eglwys at Cyprian a chawn Cyprian, yn ei atebiad, yn gosod i lawr yr egwyddor nad oedd esgob neu glerigwr a syrthiasai unwaith i gael ei adfer byth mwy i ddim uwch na safle lleygwr ar y ddaear. Pa effaith a gafodd cyhoeddiad y ddedfryd hon yn achos Fortunatianus, nis gwyddom ond gobeithiwn, er mwyn anrhydedd Cristionogaeth foreuol, mai methu a wnaeth yn ei uchelgais ansanctaidd. (3). Yr oedd dau esgob o'r Hispaen, o'r enwau Basilides a Martialis, wedi syrthio i ddosparth y libellatici; ac yr oedd nifer o gyhuddiadau ereill yn erbyn pob un o'r ddau. Yr oedd Basilides unwaith wedi cael ei gymeryd yn wael, ac yn ei afiechyd wedi cablu enw yr Arglwydd. Yr oedd Martialis wedi ymaelodi mewn cymdeithas oedd yn cydffurfio âg amryw ddefodau paganaidd, ac, yn arbennig, wedi claddu rhai o'i blant ei hunan gyda'r cyfryw ddefodau. Ar y cyntaf arddangosai BasiIides arwyddion gobeithiol o edifeirwch. Rhoddodd ei swydd esgobol i fyny o'i wirfodd, ac ymostyngodd i gymeryd ei Ie ymysg yr ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig. Yr oedd Martialis yn fwy caled a thrwy ei ddylanwad ef hudwyd Basilides drachefn oddiar lwybr edifeirwch. Yn y cyfamser yr oedd eu heglwysi wedi dewis esgobion ereill yn eu lle. Ond pan adferwyd tawelwch ar ol yr erled igaethau, penderfynodd y ddau y mynnent eu hesgobaethau yn ol. An- fonasant adroddiad anghywir o'r amgylchiadau i Stephan, esgob Rhufain, gan erfyn arno eu cydnabod hwy fel gwir esgoblon eu heglwysi. Yn unol â'i ddifaterwch arferol, cydsyniodd Stephan â'u cais heb wneuthur ymchwiliad digonol i'r amgylchiadau. Ond yr oedd yr eglwysi yn yr Hispaen yn dra anfoddlawn i ddyfarniad Stephan, ac apeliasant at Cyprian. Galwodd yntau Gynghor drachefn, ac ni phet- rusodd y Cynghor hwn droi dyfarniad Stephan yn ei wrthol. Dengys