Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Derbyniai y Coleg hwn waddol oddiwrth y llywodraeth o £ 26,000 yn flynyddol hyd ddadsefydliad yr Eglwys Brotestanaidd yn 1869, pryd y newidiwyd hynny am un taliad o £367,040. Colegau y Frenhines. Sefydlwyd y rhai hyn yn Belfast, Cork a Galway, yn y flwyddyn 1845. Colegau hollol anenwadol a rhydd yw y rhai hyn. Bwriadwyd hwy ar gyfer gwrthwynebiad y Pabyddion i Goleg y Drindod, yr hwn oedd o ran traddodiad a dylanwad yn Goleg Protestanaidd. Y Royal University, a sefydlwyd yn y flwyddyn 1879. Derbynia oddiwrth y Llywodraeth incwm o £ 20,000. Sefydliad i arholi ac i roi graddau yn unig yw hwn. Y mae yn hollol anenwadol, ac nid oes un anhawsder crefyddol wedi codi ynglyn âg ef. Llenwir rhai o'r swyddi gan Babyddion, ac y mae llawer o honynt, bob blwyddyn, yn sefyll ei arholiadau. Y Brif-ysgol Babaidd, a sefydlwyd yn 1 854. Cynhelir hon â rhoddion gwirfoddol y Pabyddion eu hunain, a rhydd raddau mewn Duwinydd- iaeth ac Athroniaeth. Y mae chwech o golegau yn gysylltiol â hi, megys Maynooth ac ereill. Dyna ddesgrifiad byr o'r sefydliadau athrofäol sydd yn yr Iwerddon yn awr. Nid yw y Pabyddion yn cymeradwyo Coleg y Drindod, na Cholegau y Frenhines fel ysgolion priodol i'w plant, a gwell ganddynt eu dwyn i fyny heb addysg athrofaol na'u cymell i fynd iddynt. Coleg Protestanaidd, o ran ei lywodraeth a'i awyrgylch, yw Coleg y Drindod Colegau cymysg yw y lleill. Dywed y Pabyddion y peryglid moes a chrefydd eu hieuenctyd pe'r elent i'r colegau cymysg. Felly rhaid iddynt gael Prif-ysgol, a'i llywodraeth yn bennaf yn eu dwylaw eu hunain, er mwyn sicrhau ynddi awyrgylch briodol i'w hieuenctyd. Dyma fel y dywedai Dr. Walsh, Archesgob presennol Dublin, yn 1890 I ni, y Pabyddion, egwyddor ddiysgog yw fcd pob sefydliad o fath Coleg y Drindod, lley mabwysiadwyd yr hyn a elwir 'y drefn gymysg,' yn ol natur y drefn honno, yn fiynhonnell o berygl i ysgolheigion Pabaidd, os mynychant ef; yn ffynhonnell perygl i ynni a symlrwydd eu ffydd, ac yn ffynhonnell perygl i'w dyfalwch mewn ufudd-dod llawn a ffyddlawn i'r dyledswyddau ymarferol hynny a'u rhwymant fel Pabydd- ion. Tra nad yw Mr. O'Donnell yn anghymeradwyo yr hyn a ddywed yr archesgob, ei brif amcan wrth ysgrifennu ei lyfr yw rhybuddio y llywodraeth rhag rhoi goimod o awdurdod yn nwylaw yr offeiriadaeth. Apelia at hanes diweddar addysg yn yr Iwerddon i brofi nad yw ei rybudd yn ddisail, a dywed yn ddiameu lawer o bethau rhyfedd y byddai yn ffolineb mawr i ni eu dibrisio. Tybiai Syr Robert Peel, pan yn sefydlu Colegau'r Frenhines, i ddarpar addysg uwchraddol ragorach yn y wlad, ar gynllun hollol rydd oddiwrth osgo at un blaid grefyddol, y buasent yn graddol ddenu bechgyn awyddus am wybodaeth o bob plaid. Ond methasant. Paham ? Un rheswm yw fod yr ysgolion paratoawl yn aneffeithiol a hollol anghymwys i ddarpar ysgolheigion i golegau uwchraddol. Y mae yr ysgolion elfennol, ar y cyfan, yn dda, ond yn y flwyddyn 1897 nid oedd ond 46'2 y cant o'u hathrawon wedi deibyn hyfforddiant priodol. Y rhwystrau mwyaf ar eu fíordd yw tlodi y bobl, claearineb at The Educational System of Great Britain and Ireland. Balfour, p. 286.