Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hytrach y mae yn fwy tebyg i hedyn neu flagur wedi blaendarddu, ond heb gyflawn ymagor. Fferm yw Hunan pob dyn a llawer iawn o honi heb ei dwyn dan driniaeth hyd yn hyn. Maes ydyw a llawer perl gwerthfawr ynddo sydd heb gael ei ddarganfod eto. Fel Canaan gynt yn eiddo Israel Duw, ond heb gael meddiant o honi, am fod y Canaaneaid heb gael eu gorchfygu, felly y mae holl diriogaethau Per- sonoliaeth dyn yn eang iawn, ond heb eu meddiannu a'u gwrteithio eto ond yn rhannol iawn. Rhaid i bob dyn wrth ddyfodol hirfaith cyn y daw i allu sylweddoli eangder y tiriogaethau a gwerth y trysorau sydd yn perthyn i'w natur. "Drwy amynedd chwi a feddiennwch eich eneidiau." Rhaid i ddyn wrth lawer o ymroad amyneddgar cyn y daw i lawn feddiant o hono ef ei hun. Os yw hyn 011 yn wir am bosibil- rwydd amryddawn personoliaeth dyn, y mae yn ddadl gref iawn yn ffafr ei anfarwoldeb. Y mae hefyd yn sail gadarn i gredu, nid yn unig yn ei allu i edifarhau a dychwelyd, ond hefyd i gynyddu bron yn ddi- derfyn mewn gwybodaeth a sancteiddrwydd. Liverpool. D. ADAMS. NODIADAU LLENYDDOL A DUWINYDDOL. Diau na bu awyrgylch y llenor duwinyddol erioed yn llawnach o nwyau ffrwydrol nag yn y dyddiau hyn. Ar un llaw daeth canlyniadau beirniad- aeth ddiweddar yn sylfeini tybiedig i dduwinyddion cyffredin yr oes, ac yn gaerau tybiedig o warohau i'r sawl sy'n gwastad chwilio am ryw ymguddfa rhag cyhuddion oydwybod euog. Bu cyfnodau cyffelyb yn hanes yr Eglwys o'r blaen y mae Germany wedi gweled y cyfryw yn ddiweddar; ac ofnwn ei fod eisoes wedi dechreu yn hanea Prydain Fawr. Ar un llaw, o fewn yr Eglwys, ceir yr Uwchfeirniaid a'r Isfeirniaid; ac ar y llaw arall, ceir o fewn yr Eglwys y saint, ac o'r tu alìan, y dosbarth isaf o rai a gam- enwir yn Wyddonwyr. Yn yr ystyr hon, prin y bu erioed fwy o ryfel yn hanes yr Eglwys ac fe raid i bob sant ymgryfhau, nes canu gyda Williams o Bantycelyn Yn y rhyfel mi arosaf Yn y rhyfel mae fy lle. Pa un a ystyrrir fod y rhyfel wedi cyrraedd Cymru ai peidio, nis gwn. Hyn a wn, fod y defnyddiau yno eisoes, a mynych y clywlr am dauynt mewn mân gyfeiriadau at ein Hysgolion, neu ynte mewn ymosodiadau anghristionogol o gadeiriau llysoedd eglwysig. Er mwyn i'r sant ymbarotoi ar gyfer y cyfryw ryfel, diau mai ei ddyledswydd gyntaf yw deall pa Ie y saif, a threfnu ei wybodaeth modd y byddo yn barod I ryfel, os i ryfel y daw.