Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ROUSSEAU AND NATURALISM IN LIFE AND THOUGHT. By WILLIAM HENRY HUDSON, Profe'sor of Enilish Literature, Stamford University, Callfornia. Edinburgh T. and T. Clark. 1903. 3s. Cyfrol newydd ydyw hon yng Nghyfres y Worlds' Epoch-Makers. Prin, feallai, o ran ei gymeriad, fel y mae ef ei hun yn ei osod allan yn ei Confessions, y gallesid disgwyl i enw Rousseau gael ymddangos ymysg Cyfnod-wneuthurwyr y ddaear. Ond, er gwaethaf y oymeriad hwnnw, yr oedd yn ei hanes, ac yn neillduol yn el ysgrifeniadau, rai pethau oeddynt yn oi wneuthur, hyd yn oed yn fwy na'i gydoeswr Voltaire, yn awdwr i'r Chvildroad Ffrengig. Ynghanol oes lawn o ffug-ymddangosiad a ffurfioldeb crefyddol llygredig, pregethodd fywyd symlach, puracb, rhagorach ac er yn diyn llygredig iawn ei hun,llwyddodd yn ei genadwri. Y mae Mr. Hudson wedi ysgrifennu un o'r llyfrau mwyaf dyddorol yn y gyfres ddyddorol hon. FORERUNNERS OF DANTE: An Account of the more important visions of the unseen world, from the earl et times. By Marcus Dods, M.A. (Edin.), B.A. (Cantab). Edinburgh T. and T. Clark. 1903. 4s. Y mae cyfoeth a chymesuredd Cân Ddwyfol Dante fel pe byddai wedi dihysbyddu holl feddwl a dychymyg dyn am y byd ysbrydol; ac o'r adeg y cyhoeddwyd hi hyd yn awr, y mae ei rhaniadau mawreddog a'i syniadau eofn wedi arglwy d aethu yn ddi-wahardd ar olygiadau y cenhedloedd Cristionogol am y byd hwnnw. Nid oes yr un bardd, hyd yma, wedi meiddio ei ddilyn nld oas iddo olynydd. A'r syniad cyffredin, ni gredwn, yw, nad oedd iddo ragflaenydd. I'r syniad hwn y mae cyfrol bresennol Mr. Marcus Dods yn agoriad llygaid effeithiol. Ni a gawn yma, mewn hanner dwsin o benodau, syniadau yr oesoedd a'r oénhedloedd a ragflaenasant Dante ar y materion hyn. Dichon nad oedd Dante ei hun mor hyddysg ag y dengys Mr. Dods ei fod ef yn y gyfrol bon. Dangya er hynny y syniadau oeddynt yn nofio yn awyr feddyliol dynolryw, yn gymylau anelwig, yn nyddiau Dante, ac fel y rhoddod i crebwyll y bardd ffurf a pharhad arhosol iddynt yn ei gân anfar- wol, Prin. feallai, y tybiai esboniwr cyffredin fod yn angenrheidiol iddo apelio at syniadau cenhedlig wrth esbonio 1 Petr 318-20, ond dengys y gyfrol hon fod gan y cenhedloedd hefyd eu golygiadau ar Ddisgyniad Crist, ac y gallai fod hyd yn oed ysbrydoliaeth yr apostol yn dwyn rhyw arlliw o ddelw y rhai hynny. The SERMON ON THE Mount: A Practical Exposition of the Lord's Prayer, by E. Griffith-Jones, B.A., Principal P. T. Forsyth, M.A., D.D., J. G. Greenhough, M A., Frank Ballard, M.A., B.Sc., Principal Alexander Stewart, D.D., W. B. Selbie, M.A. Matjchester: James Robinson, Bridge Street. 4s. 6d. net Rhandir gysegredig ym meddwl pob Cristion ydyw Gweddi'r Arglwydd. Nid yw yr adroddiad mynych o boni ond yn ei gwnaud yn gynefin heb fyned yn gyffredin. Nid oes, mewn gwirionedd, i ddibenion ymarferol, ddim eisieu esboniad arni. Er hynny, ar ol darllen y pregethau byrion hyn-oblegyd dyna, mewn gwirionedd ydynt-gan y fath wyr, teim- lwn ein bod mewn ysbryd gwell, ac mewn goleuni gwell, ac mewn cwmni gwell, i weddïo Gweddi'r Arglwydd, Allan o'r ugain Pregeth sydd yma y mae deuddeg o honynt gan E. Griffith-Jones, B.A. The SERMON ON the Mount. A Practical Exposition of St. Matth w v-vi. 8. Manchester James Robinson. 4s. 6d. net. Gan yr un awdwyr a'r Pregethau ar Weddi'r Arglwydd, gyda'r ychwanegiad o Thomas G. Selby, W. J. Townsend, D.D., Alfred Rowland, D.D., Ll.B., a George Milligan, B.D.