Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

beth sydd yn angenrheidiol ? Ai ymadael â'r egwyddor uchod, neu ei chario allan i berffeithiad ? Nis gallwn ymadael â'r egwyddor sydd wedi peri llwyddiant mor fawr nis gallwn foddloni, chwaith, ar yr amgylchiadau presennol, a gorffwys ar ein rhwyfau. Y canlyniad yw, yn ol ein barn ostyngedig, mae myned ymlaen >ydd angenrheidiol, a chyflawni'r egwyddor o Fas iach Rydd. Ei chario allan i berffeithiad, nes ei gwneud yn gyflawn fasnach rydd oblegyd fel y dywedir, Full ftee trade is the intemational law of God." Ond sut mae cario'r egwyddor allan i berffeithiad ? Rhaid i ni droi yn ol at Cobden unwaith eto. Chwiliwn am ei olygiadau yn niwedd ei oes; ar ol ei brofiad digyffelyb a'i wasanaeth dirfawr, gwrandawn ar ei genadwri olaf. á Pe buaswn i," meddai, yn bump neu ddeg mlynedd ar hugain yn ieuangach, mi fynnwn i Undeb i gael masnach rydd mewu tir fel y cawsom Undeb i gael masnach rydd mewn ŷd." Undeb rhyddid tir oedd neges ddiweddaf Cobdeu. Dyna berffeithiad masuach rydd, a dyna gwestiwn mawr y ganrif newydd hon, pa fodd i gael y tir yn rhydd. Nid cael y tir am ddim; nid heb dalu am dano ond cael tir yn barod ac yn ddirwystr at wasanaeth y bobl cael tir a thai ëang a chymhwys i'r bobl sydd yn meddiannu ewyllys a medr i weithio. IV. Oblegyd y dosbarth gweithiol yw gobaith ein gwlad. Gobeithiwn ein bod i gyd yn perthyn i'r dosbarth hwnnw. Dywedodd rhywun unwaith fod cymdeithas y byd wedi ei rhannu yn dri dosbarth y tri dosbarth oedd y gweithwyr, cardotwyr, a lladron. Os derbyniwn y dosbarthiad hwn, y mae'n ddiameu gennyf y glynwn yn agosach nag erioed wrth y dosbarth cyntaf. Ond y mae perthyn i'r dosbarth o weithwyr yn golygu perthyn i rai sydd yn cael eu gorthrymu. Gwir fod amgylchiadau heddyw yn well nag oeddent. Ar ol llafur anfeidrol, y mae gweithwyr wedi dod i feddiannu rhywbeth y mae amserau garw'r gweithwyr yn dechreu myned heibio. Yr amser caletaf ar y gweithiwr oedd yr adeg pan oedd dau weithiwr yn rhedeg ar ol un meistr. Ond fel y dywedai Adam Smith, yr amser braf ar y gweithiwr yw yr adeg pan fydd dau feistr yn rhedeg ar o1 un gweithiwr. Feallai fod yr adeg honno, i raddau, wedi dod yn awr. Ond nid yw'n gyfnod mor llwyddiannus, wedi'r cwbl y mae rhywbeth yn aros sydd yn cadw'r gweithiwr ar lawr; boed mor ddiwyd ag y medr, y mae rhyw- beth megys yn dywedyd wrtho, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach." Felly y mae ymhob man, yn y dwyrain ac yn y gorllewin; yn yr hen fyd, ac yn y byd newydd, yn Lloegr ac yn America. Dywedir yma a thraw fod byd llawer gwell ar waith ac ar weithwyr yn y gorllewin nag sydd yn eiu gwlad ni. Nis gwn faint o wir all fod yn y dywediad, ond braidd yr wyf yn barod i'w gredu ac y mae yn fy meddwl y desgrifiad byw a gaulyn, gan ysgrifennwr craff, o sefyllfa gweithiwr yr America. Tebyg yw i'r dyn hwnnw oedd yn dychwelyd adref ar derfyn diwrnod o waith, a'i gyflog fechan yn ei law. Er ei fod wedi llafurio yn galed, yr oedd y gwaith drosodd am ychydig, a gorffwysdra o'i flaen, a'i enill- ion yn ei feddiant. Ond wele, ar ei ffordd adref, daeth nifer o ladron