Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

What boot your houses and your lands, Your lands with forco and cunning got, Shrink to the measure of the grave, But Death himself abridges not, The tenures of almighty thought, The titles of the wise and brave. Nid oes ganddo ef hyd yn oed feddrod wedi ei adael yn gysegredig gwir y dywedodd y proffwyd, "Gwneir iddo orwedd yn'mhlith y rhai di-enwaededig,­-gyda lladdedigion y cleddyf a hon fydd tynged y neb a gadwo'r tir yn aberth i'w bleserau a'i nwydau ei hunan, o gyrraedd y rhai sydd yn llafurio mewn tlodi ac angen. Ein dymuniad yw i ni, a'n gwlad anwyl, fod yn ffynnon yr egwyddor gysegredig, rhyddid y tir. Ac nid nyni, ond ein Cristionog- aeth, yw'r sylfaen. Y mae amser yn dyfod pan y^daw pob dyn i'w eiddo ei hun, ond nid yw'r adeg honno yn awr. Ac oni buoch ffyddlawn yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun Pa fodd y gallwn feddwl fod Duw wedi creu'r tir ar gyfer ychydig, ac nad oes yr un gobaith i ddyn tlawd am ddim ond carreg aelwyd tra byddo byw a charreg bedd ar ol iddo farw ? Pa fodd y gallwn feddwl nad yw Duw yn gwrando llef y rhai sydd yn cael eu gorth- rymu mor galed gan ddeddf mor anghyfiawn ? Yn wir, y mae yn gwrandaw, ac y mae ar fedr rhyddhau'r tir er mwyn y bobl sydd yn ymddiried ynddo Ef. Ml geisiais gyweirio fy allor Ar fangre yn wyrddlas gan goed, I ddal yn ei gwylfa nes pallo'r Hir ddyddiau a chadw eu hoed I aros nes cilio o G ymru Y galon adfydus ei chri, Nes cilio o'r awen gâr drym-ru Y gwynt ar y lli. XVI. T. A. LEVI. ALLOR AWEN CYMRU. Awr ba awr Gymru fawr fu, Disgwyl yr ym a dysgu Dydd bwy gilydd y gwelwyf Gobeithiaw a ddaw ydd wyf." Sìon Oent.