Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fe wyliais ei ieuanc freuddwydion Cyn chwythu o'r gwyntoedd yn groes, Cyn teimlo'i obeithion yn llwydion, A'i ddelfryd yn loes. Fe sefais yn nechreu'r blynyddoedd Yng nghymod yr heulwen a'r dail, Cyn troi o gysgodau'r mynyddoedd Dros ruddiau y llynoedd di-ail A rhengoedd y gwyllt ryfeddodau A welais yn araf bellhau A lluoedd aneirif gysgodau Yn araf amgau. Fel troediad di-sŵn y tymhorau Wrth basio dros feusydd a gallt, Dihidliad digymar drysorau Awelon sy'n felus a hallt Fel breuddwyd anghyffwrdd cariadau Aeth heibio yr hen, ac nid oes O adgof y marw deimladau Ond gofid a loes. CANMLWYDD CYMDEITHAS Y BEIBLAU. NID oes yr un genedl yn y byd.yn teimlo mwy o diyddordeb yn, ac yn dangos mwy o ffyddlondeb tuag at, y Feibl Gymdeith-s, na chenedl y Cymry. Y rheswm am hynny, yn ddiau, ydyw mai anghenion Cymru yn gyntaf a roddodd fod i'r syniad o gychwyn Cymdeithas â'i hamcan i ledaenu Gair Duw heb nôd nac esboniad yn holl ieithoedd y byd. Y mae hyd yn oed y plant yn gwybod hanes Mary Jones, yr Eneth fechan o Lanfihangel-y-pennant, a gerddodd bum milldir ar hugain dros riwiau serth Cader Idris i dref y Bala i geisio Beibl iddi ei hunan, ac anhawsder Mr. Charles i gael un iddi. Ond nid dyna yr unig am- gylchiad a gynhyrfodd feddwl y gŵr duwiol hwnnw i geisio cyflenwad o'r Ysgrythyrau i'w genedl, ac nid Mr. Charles oedd yr unig un a deimlai oddiwrth amddifadrwydd y Cymry o Air Duw. Yr oedd yr angen yn llawer mwy yn y Gogledd nag yn y Deheu- barth, gan fod y Parch. Peter Williams wedi cyhoeddi tua chanol y ganrif cyn y ddiweddaf argraffiad o'r Beibl gyda nodiadau, ac oddeutu yr un amser hefyd cyboeddwyd dau argraffiad o Feibl Canne, fel ei W. J. GRUFFYDD.