Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DR. HORT. YN y flwyddyn 1868-ychydig gyda hanner can mlynedd yn ol,-yr oedd ar restr Cymrodorion Coleg y Drindod, Caergrawnt, enwau pedwar o wyr ieuainc nad oedd y byd, y tu allan i'r Brifysgol, yn gwybod ail i ddim y pryd hwnnw am yr un o honynt. Yr oedd yr hynaf wedi cael ei ordeinio yn ddiacon ac offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig, yn 1851, ac wedi cyhoeddi ei lyfr cyntaf yr un flwyddyn. Ac yr oedd y tri ereill yn edrych ymlaen at yr adeg y byddent hwythau hefyd yn cymeryd urddau Eglwysig," Y mae y pedwar ers llawer o flynyddoedd bellach yn adnabyddus trwy yr holl fyd ac y maent oll wedi marw, yn llefaru eto." Wele eu henwau Brooke Foss WESTCOTT (1825-1901). JOSEPH BARBER Lightfoot (1828-1889). FENTON Jobn ANTHONY HORT (1828­1892). EDWARD WHITE BENSON (1829—1896). Ar adeg eu marwolaeth yr oedd y ddau gyntaf yn Esgobion Durham, y diweddaf yn Archesgob Caergaint, a'r trydydd-y mwyaf o'r pedwar-yn Broffeswr mewn Duwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caer- grawnt. Dadleuir weithiau pa un ai o'r dref ai ynte o'r wlad y cyfyd dynion mawr amlaf; o'r dref y daeth y pedwar hyn. Ganwyd y cyntaf a'r pedwerydd yn Birmingham ganwyd yr ail yn Liverpool a ganwyd y trydydd yn Dublin. Bu tri o honynt yn yr un ysgol (ond nid ar yr un adeg), cyn iddynt fyned i fyny i Goleg y Drindod, Caergrawnt. Y tri hyn oedd Westcott, Lightfoot, a Benson; a'r ysgol oedd Yscrol Ramadegol y Brenin Iorwerth y Chweched, yn Birmingham. Ei Phnfathraw o 1838'hyd 1847 oedd y Parchedig James Prince Lee, y gwr a ddaeth yn y flwyddyn ddiweddaf a nodwyd (1847) yn Esgob cyntaf Manceinion. Ystyrrid ef yng Nghaergrawnt yn un o'r ysgolheigion clasurol goreu a fuasai yn y Brifysgol erioed. O 1830 hyd 1838 bu yn athraw yn Ysgol Rugby, dan y Prifathraw enwog Dr. Arnold. Barn Westcott am Prince Lee ydoedd mai efe oedd y mwyaf o athrawon mawr ei oes; ac yr oedd ei ysgolheigion yn gyffredin ymron yn anghymedrol yn eu hedmygedd o hono. Canolig ydyw y gair cryfaf y gellir ei ddywedyd am dano fel Esgob ond y mae y dystiolaeth yn ddiamheuol ei fod fel athraw yn meddu ar ragoriaethau tra arbennig. Dywedai Lightfoot ar un amgylchiad, pe rhoddid iddo y fraint o gael treulio drosodd drachefn un awr, yr hon a ystyriai yn awr ddedwyddaf ei fywyd, mai yr awr a ddewisai fyddai Gwers Prince Lee ar Gyfatebiaeth Butler. Dywedwyd gan ysgrifennydd yn y Times, mewn erthygl fyw-graffyddol ar yr Esgob Westcott, yr arferai ef, a dau o fecbgyn ereill, Lightfoot a Benson, fyned gyda'u gilydd i fynwent mewn cysylltiad âg Eglwys yn Birmingham i ddarllen barddoniaeth Browning. Ond yr oedd West- cott wedi gadael yr Ysgol, a myned i fyny i Gaergrawnt, cyn i Light-