Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwelir yn amlwg oddiwrth y tudalennau blaenorol fod yn ein myn- wes yr edmygedd dyfnaf o Dr. Hort. Nid ydyw hynny yn tybio ein bod yn derbyn ac yn cymeradwyo ei syniadau ar bob pwnc, er y rhaid i ni addef yn rhwydd yr ymddangosai i ni yn hyfder anesgusodol ynnom pe meiddiem osod ein hunain mewn unrhyw agwedd tuag ato ond agwedd disgybl yn eistedd wrth ei draed. Gwrol, gwylaidd ceidwadol, rhyddfrydig ceid ynddo yn wir y noiweddau mwyaf amrywiol yn cydgyfarfod yn brydferth. Ni lochesai yn ei fynwes gâs at neb. Darllenodd yn ofalus ysgrifeniadau y Deon Burgon, ond ni farnodd yn angenrheidiol wneuthur unrhyw atebiad iddynt. Ni theimlodd tuag ato un math o chwerwder boddlawn oedd i adael i'r ysgolheigion a ddeuai ar eu holau farnu rhyngddynt. Cawraidd oedd ei alluoedd deallo!, ac aruchel oedd ei nodweddau moesol. Dyn ydoedd ag y bydd nid yn unig ei lafur, ond yr adgofion hefyd am y llafurwr, yn gyfoeth ac yu ysbrydoliaeth i feirniaid y dyfodol. Ni ddisgwyliodd erioed ei fod yn ysgrifennu y gair olaf ar Feirniadaeth Oestynol y Testament Newydd, ond y mae pob un a fynno gymeryd i fyny yr efrydiaeth honno yn rhwym o gychwyn o'r man y gadawyd hi ganddo ef. Ac y mae wedi gosod allan nid yn unig egwyddorion yr efrydiaeth, ond hefyd yr ysbryd ym mha un y rhaid ei dilyn. Ychydig iawn a wyddom ni am fanylion yr efrydiau hynny, ond teimlwn fod yr amser a dreuliasom yn ei gymdeithas wedi profi i ni yn dra bendithiol a dyrchafol. Hyderwn y teimla ereill wrth ddarllen y nodiadau hyn ryw fesur o'r hyn a deimlasom ein hunain wrth eu hysgrifennu. Bootle. GRIFFITH ELLIS. DYN A'R BYDYSAWD.* The proper study of mankind is man yw dywediad y bardd, ac y mae cryn lawer o wir ynddo. Gall dyn gyrraedd rhyw gym^int o wybodaeth cyn dechreu meddwl amyfyrio ond gwybodaeth led debyg i eiddo yr anifail ydyw honno, gwybodaeth yn dyfod heb ei cheisio, fel y gwlaw yn disgyn i lestr agored. Ond cyn gynted ag y daw i geisio gwybodaeth, ac i ddechreu astudio yn yr ystyr briodol, mae yn rhwym o droi ei sylw ato ei hun. Ac wedi dechreu ymholi yng nghylch ei hunan, buan iawn y daw dyn i deimlo fod yn rhaid iddo geisio deall rhywbeth am ei amgylchoedd, ac mai i'r graddau y medra ddeall y *Man'g plaoe in the Universe, a studv of the Results of Soientifio Research in relatóonto the Unity or Plurality of Worlds, by Alfred R. Wallace, LL.D., D.C.L., F.R S., eto, Seeond Edition. London, Chapman & Hall, Limited, 1903.