Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nebulce. Tybier eto fod gennym'yng nghanol ein gwregys belen fechan, un ran o ddeuddeg o'r mesur o ymyl i y myl, ac felly bob ffordd yn daith 300 mlynedd i'r goleuni. Mae y belen hon yn cynrychioli sypyn o ser, i ba un y perthyna ein haul, yng nghanol y bydysawd. Mae seryddwyr yn credu fod y cyfryw svpyn yn bod ac hwyrach y der- bynnir hyna heb ini ddifynnu Miss Clarke, na neb arall, i'w gadarnhau. (3) Beth eto am ansawdd y bydysawd, am ei gymhwysier i fod yn gartref i fywyd ? Tybia Dr. Wallace fod y Llwybr Llaethog yn hollol anghymwys i fod yn drigfa igreaduriaid byw. "The whole region of the Milky Way is unfitted for life-development on account of the ex- cessive forces there in action, as shown by the immense size of many of the stars, their enormous heat-giving power, the crowding of stars and nebulous matter, the great number of star clusters," &c. Gellir, ni a goeliwn, dderbyn hyna am y Llwybr Llaethog, ac hefyd yr athrawiaeth arall am dawelwch a sefydlogrwydd pethau yn agos i ganolbwynt y bydysawd. Os mai yn y rhanbarth ganol y mae ein safle ni (yr hyn sydd bur debygol), yna mae yn ddios fod y sefyllfa honno yn ffafriol i fodolaeth bywyd. Ond beth am brif dlysgeidiaeth y llyfr A ydyw Dr. Wallace yn llwyddo i brofi mai ein byd ni ydyw yr unig un sydd yn gymwys i fod yn breswylfod i ddynoliaeth Na, pell oddiwrth hynny. Gadawn o'r neilldu y rhan arall o'r bydysawd, a thrown ein sylw at y cydser canol- og ag y soniwyd am dano. Nid yw y sypyn hwn ond cyfran fechan iawn o'r oll, eto mae yn cynnwys cannoedd, ac o bosibl filoedd, o heul- iau enfawr a pha faint a wyddys am danynt Ychydig iawn mewn gwirionedd, er mai hwy yw ein cymydogion agosaf. Gwyddys fod rhai o honynt yn ser dyblyg a thriphlyg, ac felly mae tebygolrwydd, ond dim sicrwydd, nas gall eu hamgylchoedd fod yn drigle bywyd. Ond y mae miloedd o heuliau ereill ag y dichon fod ganddynt blanedau cyffelyb i'r ddaear yn troi o'u cwmpas; beth bynnag, yr ydym yn gwybod rhy fychan yn eu cylch i fedru dweyd nad oes. Mor lleied a wyddys am y byd yr ydym yn byw ynddo, a pha fodd y gallwn fod yn sicr pa un ai trigiannol ai anhrigiannol ydyw bydoedd sydd 10 neu 20 blwydd-daith goleuni oddiwrthym Hyd yn djiweddar ni thybid y buasai Manitoba, Alaska, neu Siberia byth yn dod- yn sefydliadau o bobl wareiddiedig, ac eto yr oeddynt yr holl amser megys wrth y drws mor hawdd, ynte, y gall pethau fod yn ffafriol i fywyd mewn cysawdau ereill heb yn wybod i ni Y gwir yw fod Dr. Wallace yn seilio ei brif ymresymiad ar debygolrwydd, ac ar y dybiaeth mai damwain sydd wedi esgor ar ein byd ni a'i ddadblygiad rhyfedd. Dyma ei eiriau ef ei hun Descending now to terrestrial physics, I have shown that, owing to the highly complex nature of the adjustments required to render a world habitable and to retain its habitability during the course of time requisite for life-development, it is in the highest degree im- probable that the required conditions and adaptations should have occurred in any other planets of any other suns, which might occupy an equally favourable position with our own, and which were of the requisite size and heat-giving power." Dernyn arall o'i grynodeb:- The problem of the stars as possibly having life-supporting planets is next dealt with, and reasons are given why in only a minute portion of