Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chario Cyllideb ag oedd yn diddymu trethi ar 371 o nwyddau. Yr oedd cario cyllideb mor feiddgar o dan y fath amgylchiadau, ac ar y fath adeg, yn orchest ddigymar, ac y mae yn anhawdd penderfynu pa un ai i Gladstone ynte Cobden y mae y clod mwyaf yn ddyledus. Teg yw dweyd fod Cobden, er cyfliwni y fath orchestwaith, wedi gwrthod pob math o gydnabyddiaeth am ei lafur, ac wedi gomedd derbyn teitl a gynhygiwyd iddo gan y Frenhines trwy law Palmerston. Y cwbl a dderbyniodd oedd ei dreuliadau yn unig. Cafodd Gladstone drafferth fawr i gario ei Gyllideb drwodd, ac oni buasai am ei wroldeb digymhar ni fuasai wedi llwyddo. Yn un peth, yr oedd Arglwydd John Russell, gydai gynllun o Ddiwygiad Seneddol, yn ceisio cael y lIe blaenaf. Hablaw hynny, yr oedd iechyd Gladstone, oherwyd I ei lafur di-ildio, wedi amharu yn fawr. Pan ddaeth yr adeg iddo idwyn ei gyllideb o flaen y Senedd, rhybuddiwyd ef gan ei fedlyg a'i gyfeillion ei fod yn peryglu ei iechyd. Ond mynnai wneud. Siaradodd yn y Tŷ o bump hyd naw o'r gloch yn egluro y gyllideb, a'r dystioliaeth gyffredin oedd mai hon oedd uu o'r buddugoliaethau mwyaf a enillwyd ganddo yn Nhy y Cyffredin. Ymysg y trethi oedd i gael eu diidymu yr oedd y dreth ar bapur; y dreth ar wybolaeth fel y gelwid hi. Yr oedd Tŷ yr Arglwyddi yn penderfynu gwrthwynebu y rhan hon o'r Gyllideb. Gan fod y mesur yn cael ei ddwyn i mewn yn fesur ar ei ben ei hun, yr oedd gan eu harglwyddi hawl i wneud hyn ac yr oedd eu hewyllys yn barod. Ac er ei fod yn fesur y Weinyddiaeth, eto yr oedd Arglwydd Palmerston, y prif-weinidog, mor awyddus i ddymchwel y mesur a neb. Ië mwy, fe ysgrifennodd at y Frenhines y buasai yn dda ganddo pe teflid y bil allan gan yr Arglwyddi. Y canlyniad oedd iddynt wneud hynny. Ond cyffröid hyn ysbryd Gladstone. Yr oedd o ddifrif, ac ymladdodd yn ddewr yn y Cyfrin-gynghor. Ond er y cyfan, yr oedd y dylanwadau yn ei erbyn yn rhy gryf, a bu raid iddo ymfoddloni yn unig ar adael i'r Tŷ basio rhai penderfyniadau yn gwrthdystio yn erbyn gwaith Tŷ yr Arglwyddi. Nid oes un amheuaeth na ddarfu i'r ymyrriad hwn o eiddo Tŷ yr Arglwyddi yrru Gladstone lawer yn ei flaen yng nghyfeir- iad rhyddfrydiaeth. Fel y gwyddis, cafodd gyfleusdra ar 01 hyu i ddileu y dreth ar bapur er gwaethaf y Tŷ pendefigaidd hwnnw. Gellir canfod teimlad Mr. Gladstone gyda golwg ar ymyrriad anhêg yr Arglwyddi â'r Gyllideb ond darllen y geiriau canlynol a ddefnyddiodd mewn papur a ddarllenodd o flaen y Cyfrin-gynghor. Am danaf fi," meddai, nid wyf yn foddlon ar fod i. Dy y Oyffredin gadw trwy «aniatad yn >nig, a hynny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr hyn a enillodd yn yr eilfed ar bymtheg, ac a gadarnhawyd ac a helaeth- wyd yn y ddeunawfed ganrif." Yr oedd ymdrechion Mr. Gladstone o blaid egwyddorion rhydd- fasnach yn ei gyllidebau y pryd hvvn yn rhai beiddgar dros ben. Yn iaith yr amseroedd hynny, cododd bob modfedd o'i hwyliau rhydd- fasnachol i'r gwynt, a hynny yn nannedd tymhestl a fuasai yn peri i'r capten mwyaf dewr dynnu rhai o'i hwyliau i lawr. Yr oedd yn elyn calon i bob gwastraff, a gofidiai fod rhai a alwent eu hunain yn rhydd- frydwyr yn fwy hael ar bwrs y wlad nag oedd hyd yn oed Gwein-