Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfeiriad, fod Gladstone wedi gorfodi y Frenhines i lawarwyddo y Warant, ond nid oedd Morley yn gweled un prawf o hyn. Mynnai Disraeli nad oedd y cyfan ond bradwriaeth yn erbyn Tŷ yr Arglwyddi, trwy gyfrwng y Goron. Y buasai yn well gan y Frenhines i bethau aros fel yr oeddynt sydd yn debygol, ond nid yw yn ymddangos iddi daflu un rhwystr arbennig ar y ffordd. Buasai yn ddyddorol dilyn cwrs gyrfa Gladstone mewn cysylltiad â mesurau ereill, yn enwedig y Tugel. Ni wnawn ond crybwyll ei fod wedi dweyd, wrth ysgrifennu at Arglwydd Shaftesbury na fu erioed yn elyn anghymodlawn i'r tugel, ac y mae yn cyfeirio at araeth o'i eiddo yn Greenwich, yn 1868, pan y dywedodd Yr wyf bob amser wedi datgan fy marn o blaid pleidleisio yn agored, ond yr wyf wedi gwneud hynny o'r blaen, ac yn ei wneud yn awr, ar yr ammod pwysig fod yn rhaid i'r bleidlais, pa un bynnag ai yn agored ai yn ddirgel, fod yn un rydd." Dyna mae'n debyg, y brif egwyddor oddiar ba un y gellir dadleu dros y tugel, sef nas gellir sicrhau rhyddid heb hynny. Er pasio Tŷ y Cyffredin gwelodd Tý yr Arglwyddi fil a mwy o resymau yn erbyn y mesur, a thaflwyd ef allan trwy fwyafrif o 97 yn erbyn 48. Cyffrodd hyn Gladstone, ac er nad oedd yu zelog iawn dros y tugel, yr oedd yn frwd o blaid hawliau y bobl. MewD araith yn Whitby, dywedai fod Tŷ y Bobl wedi pasio y mesur, a phan ddeuai y Tý hwnnw drachefn at ddrws yr Arglwyddi y deuai gan gnocio yn fwy awdurdodol. Ac felly fu. Pan basiodd Tý y Cyffrediny tro nesaf, yn 1872, cnociwyd mor effeithio) fel y dychrynodd Tŷ yr Arglwyddi, ac agorwyd iddo yn ebrwydd. Cafwyd mai áá Trech gwlad nag arglwydd." ELEAZAR ROBERTS. YR AT-DYNIAD. I. 0 DYWYLL, ddyrus fyd Paham y mae Dy awyr drom heb beidio'u heigio gwae ? Pa'm mae dy ddydd mor fyr, a'th nos mor ddu ? Pa'm try dy wlith yn rhew ar aeliau cu Plant bach diniwed Pa'm, pan ffera'u cnawd Gan fin y rhew-wynt trwy eu dillad tlawd, Y ceisiant gysgod porth neu onglog fur, Rhaid iddynt ddwyn sarhâd rydd ddyfnach cur Mae ecrach ddrygau'n bod, — rhai mae eu gloesion Yn cloi i fyny'r llwybrau rhwystrus, culion Dianga'r deigr a'r gaeth ochenaid trwyddynt, I ddweyd yr ingoedd mae'r dioddefydd ynddynt Helbulon meddwl, ac arteithiau calon, Y rhai sy'n sychu bywyd ysbryd dynion.