Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Swper YR ARGLWYDD: Ystyriaethau er Addysg, Paratoad, a Chymhwya- derau Personol a berthynant iddo. Gan y Parch. J. H. Symond, To;vyn, Meirionydd. Gwreosam Haghes a'i Fab, Heol Estyn. 1904. 2s. 6ch. Angen mawr Cymru y blynyddoedd hyn," medd Mr. Symond, yw, Mwy o wah niaeth rhwng ei chymunwyr a'r byd." Dyma ydoedd yn nyddiau Williams, Pantycelyn, fel y dengys yn y llythyr oläf a ys^rifennodd at Mr. Charles o'r Bala yn 1791, a dyua, mae'n debyg a fydd hyd y dydd y daw y Gwyntyl ydd mawr i wahanu rhwng yr ûs a'r gwenith. Da iawn, ac amser- ol, er hynny, ydyw gwaith Mr. Symond yn galw sylw at y mater pwysig hwn. Oblegyd, os diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef ? Hawdd ydyw gweled, wrth ddarllen y llyfr, fod Mr. Symond yn cadw y pafon yn uchel nid yn roy uchel ond yn hollol fel y dylai fod. Os y iyw crefydd i'w ba nu oddiwrth ei phroffeswyr—ac y mae yn deg gwneuthur hynny I raddau pell-dylid eu hadgofio hwythau yn fynych ac yn ddwys pa ryw fath ddynion a ddylent hwy fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duw- ioldeb. Ac ni ddigwyddodd i ni daro ein llaw, ers 11 wer dydd, ar ddim byd mwy tebyg i fod yn effeithiol i hynny na'r llyfr llednais, diymhongar hwn, Y peth cyntaf ssdd yn ein taro wrth ei ddarllen ydyw argyhoeddiad dwfn a chlir yr ysgrifennydd o bwysfawredd ei destyn. Hawdd gwel d ymbob pennod a brawddeg o hono fod yr awdwr yn credu yr hyn y mae yn ei ysgrifennu a'i holl galen, a'i fod yn traethu ei argyhoeddiadau dyfnion ei hun gyda'r nerth a'r grymusdcr y nae y cyfryw argyhoeddiadau yn eu haeddu. Mewn oes mor wagsaw a'r eiddom ci, pan y rhaid i 1 ob peth symud gyda hoewder a diflanedigrwydd y ddawns, y mae taro ar lyfr sydd yn penderfynu dweyd ei neges o ddifrif yn rhywbeth amheuthyn iawn, ac yn rhwym o adael argraff iachus a bendithiol ar y neb a'i darlleno. Peth arall sydd yn rhwym o daro y darllenydd wrth fyned trwyddo ydyw lledneisrwydd, gweddusrwydd ac urddas yr iaith. Yr oedd y fa'h destyn yn galw am hyn. Wrth fyned heibio yr ydym yn sylwi ei fod yn llythrennu yn ol yr orgraff a fabwysiedir yn awr gan braidd bob ysgrifennydd Cymreig o bwys—Orgraff y Gymdeithas Gymreig. Nid yw hynny, feallai, nac yma nac acw. Ond y mae yn amlwg fod yr awdwr wedi cymeryd pob trafferth I chwilio am eiriau cymo radwy i osod ei feddyliau ger bron, a'i fod wedi llwyddo yn hyi ny tu hwnt i fesur. Dichon, er hynny, mai yr hyn a d rry y darüenydd wrth ddarllen y llyfr ydyw ysgrythyroldeb yr ymdriniaeth. Dywedir am ysgrifcniadau Charles Dickens mai un o'r pethau hynotaf ynddynt ydyw absenoldeb difyniadau. Ni wyddis, meddir, drwy ei holl weithiau meithion, am ragor nag un. Y mae y llyfr hwn yn orlawn o honynt, ond mai adnodau o'r Beibl ydynt. Hawdd deall pa un a fydd dyn yn gyfarwydd â'r Hen Lyfr ai peidio. Dengys y difyniadau o adnodau a wneir yn y llyfr-rhai o honynt mor newydd ac an hynefin—pa mor gyfarwydd y rhaid fod yr awdwr yn ei Felbl, ac y mae asiad prydferth yr adnodau hyn â'u g'lydd yn gwneuthur holl adeiladaeth y llyfr yn brydferth a godidog iawn. Nid ydym yn gwybod ers pa pryd y oawsom gymaint o hyfrydwch wrth ddarllen llyfr orefyddol a hwn.