Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. THOMAS CHARLES EDWARDS. ADGOFION. Y cof cyntaf sydd gennyf am y Principal ydyw yn pregethu ar nôs Sul yng nghapel Engedi, yng Nghaernarfon, yng ngwanwyn neu ddechreu- haf y flwyddyn '72. Ei destyn ydoedd y paragraff olaf o'r Bregeth ar y Mynydd, ar y tý ar y graig a'r ty ar y tywod. Gau amrywio oddiwrth y dehonglwyr o'r damhegion, hyd y sylwais i, galwai y paragraff yn ddameg, a'r gyntaf o ddamhegion yr Arglwydd Iesu. Pregethai y tro hwnnw gydag ynni trydanol. Y nodwedd amlycaf arno i mi, y pryd hwnnw, ydoedd ei frwdfrydedd. Anfynych y clywswn bregethwr gyda'r fath frwdaniaeth yn ei ddull. Tynnai ddisgrifiad o fachgen ieuanc yn uu o'r trefi mawrion, wedi ei lethu gan amheuon, ond yn profi gollyngdod i'w feddwl o'r diwedd mewn argyhoeddiad o ddwyfoldeb yr Efengyl, ac yng ngwynfydedd y teimlad hwnnw yn cerdded ol a blaen yn ei ystafell yn ei lety, gan grïo a chwerthin bob yn ail yn llawenydd ei galon, fel un wedi braidd golli arno'i hun,­-disgrifiad nad oeddwn wedi clywed dim yn dod i fyny âg ef mewn brwdfrydigrwydd teimlad, ac un ag oedd, mae'n ddiau gennyf, yn adgofiad o'i brofiadau ef ei hunan, nid yn un o'r trefi mawrion, ond mewn uuig leoedd ar y bryniad oddeutu'r Bala. Ar ol hynny, mi a'i clywais mewn pregeth yn sôn am dano'i hun yn ddyn ieuanc, wedi crwydro i'r mynyddoedd mewn ffrâm fwy crefyddol ar ei feddwl na chyffredin,' a chanfod yno fwsoglyn tlws odiaeth yn rhyw gilfach anhygyrch, ac i'r meddwl ymgynnyg iddo yn y fan, na chanfu llygad dyn mo'r mwsoglyn hwnnw o'r blaen, ond iddo dyfu yno am oesau er mwyn iddo ef ei weled y diwrnod hwnnw, a deffroai'r meddwl orfoledd newydd yn ei ysbryd. Yn ystod y bregeth yn Engedi, fe gyfeiriodd at amheuwyr cyhoeddus o'r Efengyl, Mi fuaswn yn chwerthin am eu pennau ouibie fy mod i'n bregethwr." Mor hyfryd y cludid y sylw yma i'r teimlad gan grediniaeth amlwg y pregethwr yn ei bwnc, a'r hwyl yr ydoedd ynddi ar y pryd Teimlwn y pregethwr hwn gyda'i fynegiad angerddol