Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'r sefyllfa y bwriadwyd iddi yn y dechreuad, fel y mae y creadur yn dechreu cael ei ryddhau yn awr yn raddol i'r graddau y codir dyn, a phan y gogoneddir dyn yn gyflawn yn y diwedd, caiff y creadur ei ryddhau yn gyfangwbl o afaelion caethiwed llygredigaeth. Ceir fod 2 Petr, iii. yn manylu ar losgiad y byd-dywed ei fod wedi ei roddi i'w gadw i dâu Hawdd iawn ydyw credu hyn, gan mor llawn yw y ddaear o nwyau tanllyd, a dengys y volcanic eruptions a gymerant le yn ddigon aml, fod defnyddiau ei thân ynddi hi ei hunan. Ond nid ei llosgi i'w diddymu a wneir, ond i'w phuro llosgir yr "oferedd," llosgir y sothach, Uosgir caethiwed llygredígaeth," llosgir pob nychdod ynddi, yr holl atalfeydd, holl olion y l< darostyngiad," ac yna "nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni yn ol ei addewid Ef yn eu disgwyl, yn y rkai y mae cyfiawnder yn cartrefu." Pwy gaiff ddyfod i fyw i'r ty newydd ar ol y liosgiad ? Deil rhai mai y saint, ac y cant ddyfod yn ol i'w hen gartref. Nis gellir penderfynu hynny. Modd bynnag, mor wir a bod pechod wedi taflu ei gysgodion tywyll i bob cyfeiriad, y bydd i sancteiddrwydd eto daflu ei belydrau disglaer i bob adran o'r cread Oes, y mae dyrchafiad a gogoneddiad yn aros, a bydd yr holl greadigaeth yn cael adferiad, ac y mae hithau yn awr fel pe yn ymestyn mewn hiraeth ac ing am cael clywed y gloch yn canu, ac y bydd yn cael gollyngdod bythol o'r caethiwed i ryddid gogoneddus y saint T. M. JONES (Owenallt). Colwyn Bay. BYWYD GLADSTONE GAN MORLEY. III. YR ydym yn y ddwy erthygl flaenorol wedi ymgadw, i fesur mawr, oddiwrth ymdrin nemawr â syniadau Mr. Gladstone ar faterion crefyddol ac eglwysig ond caniatäer i ni dorri am foment ar ein hanes am dano fel gwladweinydd i gyfeirio at y modd yr oedd yn condemnio yr Eglwys Sefydledig oherwydd ei bod yn glynu mor dyn wrth ei buddiannau tymhorol. Wrth ysgrifennu at W. H. Gladstone yn 1865, cynghora yr Eglwys i ildio rhai o'i hawliau cyfreithlon cyn cael ei gorfodi i hynny gan y wlad. Wrth gwrs nid oedd am iddi am foment roi i fyny unrhyw un o erthyglau ei chredo ar hanfodion Cristionog aeth. Ond am feddiannau bydol yr Eglwys, rhoddwyd hwynt iddi," meddai, er mwyn cyflawni ei gwaith yn effeithiol, a gellir eu cwtogi neu eu hepgor ond yr ydym wedi byw i weled yr amser pan mai perygl mawr yr Eglwys ydyw gwerthu ei ffydd am olud." A dywed ymhellach fod gorfodi Ymneillduwyr i dalu am addoliadau yr Eglwys