Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PIGION 0 DDYDDLYFR AMIEL. (AIL LITH). LLYWODRAETHU PLANT. HUNANLYWODRAETH a thynerwch dyma i chwi amodau pob awdurdod ar blant. Ni ddylai y plentyn ganfod ynnom unrhyw nwyd, unrhyw wendid y gall efe ei ddefnyddio. Dylai deimlo nas gall ein twyllo na'n cythryblu yna cydnebydd ni fel ei uwchafiaid naturiol; a rhydd bris arbennig ar ein caredigrwydd oblegyd ei fod yn ei barchu. Os dichon y plentyn gyffroi ynnom ddigofaint, neu goll-amynedd, neu gyffro, teimla ei fod yn drêch na ni: ac nid yw'r plentyn yn parchu dim ond nerth. Saif ei fam iddo yn lle daioni, rhagluniaeth, deddf. Dibynna crefydd plentyn ar yr hyn ydyw ei dad a'i fam ac nid ar yr hyn a ddywedant. Cenfydd y plentyn beth ydym-y tu ôl i'r hyn y dymunem ei fod. Dyma'r paham y dywedwn mai egwyddor gyntaf addysg plentyn yw-disgyblwch eich hun a'r rheol gyntaf i chwi. os ewyllysiwch feddiannu ewyllys plentyn — llywodr- aethwch yr eiddoch eich hun. CWSG. Cwsg yw dirgelwch bywyd y mae rhyw swyn gor-ddwfn yn y distawrwydd a fesurir gan anadliadau cyson tawel plant yn cysgu. Teimlwn wrth edrych arnynt fy mod yn dyst o waith rhyfeddaf natur a gwyliwn hwynt mewn ysbryd parchedig. Eisteddwn yn sylwgar, yn edrychydd cyffroedig, ond mûd, ar farddoniaeth y cryd, y fendith deuluaidd henafol hon-sydd byth yn newydd, Dyma ddameg o'r Cread yn huno dan aden Duw; o'n hymwybyddiaeth yn ymgilio i'r cysgod, fel y gallo orffwys oddiwrth faich meddwl,-ac o'r bêdd, y gwely dwyfol hwnnw-" Ue y gorweddodd yr Arglwydd." Y mae cwsg yn hidlo ac yn clirio ein teimladau, yn dodi llaid bywyd yng ngwaelod y ffynnon, yn lleddfu twymyn yr enaid, yn dwyn dyn yn ol i fynwes natur-ei fam i ddyfod allan drachefn wedi ei iachau a'i gryfhau. Math o ddiniweidrwydd, ac o buredigaeth yw Cwsg. Bendigedig a fyddo Efe, yr Hwn a roes i dlodion daeal gwsg-yn gydymaith sicr a ffyddlon, yn feddyginiaeth a dyddanwch beunos. YN Y DIRGEL. 'R'wy'n diolch i Ti, fy Nuw, am yr awr a dreuliais yn bresennol yn Dy wydd. Yr oedd Dy ewyllys yn eglur i mi mesurwn fy meiau, cyfrifwn fy ngofidiau, a theimlwn Dy ddaioni tuag ataf. Sylweddolwn fy niddymdra-Ti roddaist i mi heddwch. Y mae melusder yn y chwerw; llawenydd yn y brofedigaeth nerth yn yr ymostyngiad yn