Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

adwy, a chwyldroi y byd. Cyhoeddoedd a sylweddolodd iachawdwr. iaeth trwy ffydd yn Nhrugaredd Anfeidrol Duw, ac yn y pardwn a roddir i edifeirwch syml a gwnaeth ostyngeiddrwydd yn Borth Paradwys. Llandudno. H. Babrow WILLIAMS. BEIRDD AC EMYNWYR EIFIONYDD. MYNYOH y gelwir Eifionydd yn wlad y Beirdd ac y mae priodol- deb mawr yn yr ymadrodd, yn enwedig un cwr o Eifionydd, sef ardaloedd Brynengan a Chapel y Beirdd-dyma Barnassus Eifionydd yn enwedig ar un adeg, sef yn nyddiau Dewi Wyn a Robert ap Gwilym Ddu. Dyma oes euraidd ei barddoniaeth, fel y dywed Hiraethog yn y gyfrol o waith barddonol Ioan Madog. Gwnaeth Eifionydd," meddai, "er dechreu y ganrif hon fwy, a mwy o lawer hefyd, nag a wnaeth un parthran arall o'r Dywysogaeth, er dyrchafu a chyfoethogi llenyddiaeth farddonol ein gwlad. Dyna Dewi Wyn o Eifion, Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, yr hwn yntau oedd Eifionwr; Sion Wyn o Eifion Ellis Owen, o Eifion Eben Fardd, eto Emrys eto,-ac, yn ddiweddaf, Ioan Madog, oll yn feirdd- O'r un waed a'r awen wir,' a'r nifer fwyaf o honynt yn gyfryw na welodd Cymru hyd yma eu rhagorach, ac ni byddai iddi achos i gwyno pe na welai eu rhagorach mwy, os caiff rai hafal iddynt." Nid un cwr o Eifionydd yn unig sydd wedi ei hynodi gan feirdd ac nid mewn un oes yn unig yr oeddynt ganddi. Y mae Eifionydd yn hynod am ei beirdd ers llawer oes; o leiaf er yr unfed ganrif ar bymtheg. Ac nid yw wedi colli ei henwog- rwydd hyd y dydd hwn. Y mae Eifionydd ymhob cwr o honi hefyd wedi ei britho gan feirdd mewn rhyw adeg neu gilydd. A chan mai Beirdd ac Emynwyr Eifionydd ydyw y testun, ni a gymerwn drem arnynt oll, gan gyfyngu ein hunain yn unig at y rhai sydd wedi marw. Y cyntaf y gwelsom hanes am dano oedd John Owen, yr englynwr Lladin enwog, er fod dau ereill yn cydoesi âg ef, sef Cadwaladr Cesail a Morris Dwyfach. Mae yn debyg mai efe oedd yr enwocaf. Cyfan- soddodd ei holl farddoniaeth yn Lladin a chyfieithwyd hwy i'r Saes- neg, ynghyd ag i dair o ieithoedd y cyfandir, sef y Ffrancaeg, y Germanaeg, a'r Hispanaeg; ond nid ydym yn deall i ddim o honynt gael eu cyfieithu i'r Gymraeg, nac iddo yntau ychwaith gyfansoddi dim yn iaith ei fam. Yr oedd John Owen o deulu pendefigaidd, yn drydydd mab i Thomas Owen o'r Plas du, ac yn nai fab chwaer i Syr William Morris, Clenenau, un o'r Cymry mwyaf pendefigaidd yn ei oes, ac yn