Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A buasem heb englyn pert Ellis Owen, Cefnmeusydd, i'r ferch gelwyddog, yr hwn, fel pob englyn gwir dda, sydd a'i ergyd yn ei ddiwedd,— D'wedodd a fedrodd, tra fu-o gelwydd Gwyliwch ei d^debru, Neu hi ddywed 'r wy'n credu, I bawb, mai'n y nef y bu." Mae y dyfyniadau yma yn ddigon, ni a hyderwn, i ddangos y buasai barddoniaeth Gymreig yn llawer tlotach pe heb Feirdd Eifionydd. HENRY HUGHES. Bryncir. HELYNT Y FFYDD. II. CEISIAIS ddangos mewn ysgrif flaenorol* fod duwinyddiaeth a gwydd- oniaeth wedi croesdynnu cryn lawer. Buddiol yn awr fyddai edrych ar afresymoldeb yr anghydfod. Pa raid fod anghydfod Y mae ystyriaeth ddwys i diriogaeth ac amcan y naill a'r lla.ll, a'u perthynas â'u gilydd, yn dweyd wrthym na ddylai fod o gwbl- Dylem ar y cychwyn gofio nad am bob math o wyddoniaeth, neu o leiaf am bopeth a fyn ei alw ei hun yn wyddoniaeth, yr ydym yn sôn. Sðn yr ydym am y wyddoniaeth sydd yn ymdrech ddifrif i gyrraedd gwirionedd, ac yn barod i gydnabod anhawsterau, ac nid am daranau a melltithion trystfawr dynion nad ydynt yn adnabyddus yn y byd gwyddonol. Na thybier, fel y mynnai rhai ysgrifenwyr inni dybio, nas gall gwyddonwyr fod yn wyr defosiynol a duwiolfrydig. Ceir Ни o honynt yn Gristionogion gloew ac aiddgar; ac eto, wrth eu gwybod- aeth hwy nid ydyw gwybodaeth rhai ymhonwyr ond megys diferyn wrth y môr mawr. Sicrha hanes ni fod y dynion a wnaeth fwyaf i hyrwyddo gwyddoniaeth yn hollol anymwybodol o ddim anghysondeb rhwng eu dysgeidiaeth wyddonol a'u syniadau am y byd ysbrydol. Pan awn yn ol i hanes Groeg, ganrifoedd cyn amser Crist, cawn mai ychydig iawn oedd dyled gwyddoniaeth i fateroliaeth. Gwir hyrwyddwyr gwyddon- iaeth oedd dynion fel Plato ac Aristotle, athronwyr dyfnddysg, dynion yn credu mewn crefydd, dynion gyrhaeddodd y syniad nad oes ond un Duw yn bod. Uchel ganmolir Arabiaid y canol oesoedd am eu dar- ganfyddiadau gwyddonol, a cheisir dangos eu tra rhagoriaeth ar Grist- Tbaethodtdd 1903, t. 416.