Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hynny, bydd ganddi wedi hynny i groesi'r gagendor sydd rhwng mater a bywyd, ac oddiyno at ymwybyddiaeth, a'i gynnwys rhyfeddol. Ond hyn nis gall ei wneud. Erys achos cyntaf pob peth y tu hwnt i'w chyrhaeddiadau. Nid ydyw ei holl addysg, gan hynny, yn cyffwrdd dim â chred yr eglwys fod y tu ol a'r tn fewn i'r holl greadigaeth Fod anfeidrol, deallol, personol, yn creu, yn rheoli, ac yn trefnu'r cyfan. Y mae'r ddamcaniaeth hon, yn anad unrhyw ddamcaniaeth, yn gofyn Person, nid yn unig sydd trwy natnr, eithr uwchlaw natur, er mwyn rhoddi gwerth a grym iddi. Gan hynny, y mae athrawiaeth Datblygiad wedi ëangu a chlirio syniad yr eglwys am ddull creadigaeth, ac am berthynas Duw â'r gread- igaeth. Cychwynna'r ddamcaniaeth gyda gweithrediad ffydd-ffydd fod natur yn beth rhesymol, yn rhywbeth ag ystyr ynddi a thrwyddi, hyd yn oed yn y pethau nas gellir yn awr eu cymodi â deddf. Trwy'r gred hon daeth llawer o bethau nad oedd gynt ystyr iddynt. yn llawn o ystyr, ac ni theimla'r gwyddonydd drais ar ei ffydd wyddonol pan y gwel lu o bethau nas gall yn awr eu hegluro. Eir ymlaen gyda'r un ffydd trwy'r holl athrawiaeth, nes yn y diwedd y teimlir nad oes dim ond Duw personol yn cyfrif am y greadigaeth a'i holl brydferthwch, ei grym, a'i threfn. Gwelir ôl ei law ymhob man,. — nid unwaith, eithr ar bob amrantiad ac ymhob cyfeiriad. Gwelir nad ydyw yn gadael ei greadigaeth am foment. Y mae efe cyn pob peth ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd-sefyll neu, yng ngeiriau'r Iesu, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn." JOHN OWEN JONES. Y Baìa. ADDYSG YNG NGHYMRU. NEWYDD yw y symudiad addysgawl yng Nghymru, ac mae eto yn rhy gynnar i ddweyd llawer gyda dim sicrwydd am ei effeithiau. Nis gellir mwy nag awgrymu tueddiadau a nodi rhai o'r peryglon y dylid eu gwylio. Anhawdd yw sylweddoli nad oes angen myned yn ol fwy na phymtheng mlynedd i gymeryd i mewn gyfnod o amser yn yr hwn yr unwyd y Colegau Cenedlaethol mewn un Brifysgol, yn yr hwn y pasiwyd Deddf Addysg Ganolraddol, ac yr agorwyd 95 o ysgolion o dan y Ddeddf honno, yn yr hwn y sefydlwyd Bwrdd Addysg Canolog ar sylfaen 16 o awdurdodau sirol. Pan yr ystyriwn fod tua dwy fil o'n cydwladwyr o fewn yr un cyfnod wedi eu dwyn i gyffyrddiad union- gyrchol â chwestiwn addysg trwy ddyfod yn aelodau o'r gwahanol fyrddau llywodraethot—canolog, sirol, neu leol-ymddengys y symud- iad bron mor gyflym ag i deilyngu ei alw yn chwyldroad. Mae y rhai sydd yn edrych ar symudiadau o'r tu allan yn cael gwell mantais yn